Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ychydig amser yn ôl, chwilotai dau gyfaill, Raymond Manders a Joe Mitchenson mewn siop pethau ail-law yn Sydenham, a daethant ar draws hen lyfr a chryn dipyn ohono mewn ysgrifen. Nid Cymry oedd y ddau ond rai blyn- yddoedd yn flaenorol, buont â'u harddangosfa ddrama ym Mae Colwyn a daethant i gysylltiad â Chymru a Chymraeg am y tro cyntaf. Tybiasant mai Cymraeg oedd yn y llyfr a rhag digwydd ei fod o ryw werth llenyddol, gyrasant ef i mi. Felly achubwyd llyfr yr hen fardd rhag y fflamau, oblegid dyna'r dynged a'i arhosai pan ddaethant o hyd iddo. Ar y clawr y mae'r enw Wm. Williams a'r dyddiad 1827, ac ymddengys mai llyfr nodiadau coleg ydoedd a ddefnyddid pan oedd y bardd yng Ngholeg Rotherham, Swydd Efrog. Yn y rhan gyntaf o hono ceir nodiadau mewn llaw fer ddestlus ar bynciau fel Edifeirivch, Maddeuant, etc. a phynciau eraill y bu'n eu hastudio pan oedd yn fyfyriwr yno. Yn ôl llythyr o'i eiddo, ni bu ond ychydig amser yno cyn i'w iechyd dorri i lawr. Ymhen amser defnyddiwyd yr hen lyfr i gadw nifer o ysgrifau ac erthyglau a ysgrifennodd o bryd i'w gilydd. Ceir ynddo hefyd nifer o ddyfyniadau o newyddiaduron, erthyglau a ysgrifennodd ar bync- iau cymdeithasol a rhai caneuon ac englynion o'i eiddo. O'i droi o chwith, cawn ddwy ysgrif IBuom yn disgwyl cyfle ers tro i gyhoeddi'r dogfennau hyn. Diolchwn i'r prifardd, Mr. Edgar Phillips, am ei garedigrwydd, ac am ei waith cyson yn cadw lamp ein cenedl yn olau ar ffiniau Mynwy. Gwyddom hefyd am waith ei briod lengar, eithr i'w ferch ddawnus, Miss Mgt. E. Bateman Phillips, B.A., y mae inni ddyled am gopîo'r Hunangofiant. Gwyr y cyfarwydd am Ie amlwg y Batemaniaid yn hanes Annibynwyr Sir Benfro. Gan fod yr Hunangofiant a mwy yn Cofiant Caledfryn dan olygyddiaeth Scorpion 1877, nis cynhwysir yma. Hefyd, oherwydd prinder lle, ni roddir namyn ffynonellau'r tair llith "New Independent Chapel", Caernarvon and Denbigh Herald, June 23, 1838 "Progress of Dissent in Caernarvon", The Caernarvon Herald, Jan. 5, 1839 "Eistedd- fod Iforiaid Caerdydd, Gorff. 2, 3, 1861, The Cardiff Times. Ool. CALEDFRYN1.