Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COFNODION Y GYMDEITHAS HANES 1954. Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas yn Jerwsalem (M.C.), Pen-y-groes, Sir Gaerfyrddin, ddydd Mercher, Mehefin 2, 1954, am 5 o'r gloch. Cadeiriwyd gan y llywydd, y Parchedig J. Dyfnallt Owen, M.A., a dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. Erastus Jones, B.A., B.D., Seven Sisters. Rhoes yr Ysgrifennydd air yn egluro gwaith y flwyddyn, sef y modd y bu rhaid wynebu'r gofynion ariannol a dewis trysorydd newydd heb unrhyw fodd i alw'r Gymdeithas ynghyd. Bu rhaid ym. gynghori a phenderfynu trwy ohebu, a gofynnwyd i Mr. Emyr Gwynne Jones, M.A., Llyfrgellydd Prifysgol Bangor, ymgymryd â'r gwaith, gwr medrus a hanesydd o'r radd flaenaf. Soniwyd mai gofid pennaf y Gymdeithas ydoedd yr anhawster o gasglu'r tanysgrifiadau. Cyfeiriwyd at waith da rhai o'r cynorthwywyr, a dewiswyd eraill i lanw'r bylchau Brycheiniog Y Parch. Arthur Jones, B.A., Aberhonddu, ond cymer- adwyodd ef y Parch. W. T. Jenkins, B.A., Libanus, ac ef a ddwg y gwaith ymlaen. Morgannwg, Gogledd Y Parch. R. Ifor Parry, M.A., i gynorthwyo'r Parch. H. P. Hughes. Morgannwg, Dwyrain Y Parch. J. Derfel Rees, B.A., B.D., Ynys-hir. Morgannwg, Gorllewin Y Parch. Huw Ethal, B.A., Brynaman. Morgannwg, Deheuol Y Parch. Alun Page, B.A., Ysgiwen. Lerpwl a Manceinion Mr. Emrys Jones, F.I.C., Crewe. Llundain Y Parch. W. T. Owen, B.A., B.D., King's Cross. Diolchwyd am gymorth y rhai sydd eisoes yn gwasanaethu. Sylwyd ar y Cofiadur diwethaf ei fod yn fwy na'r un a fu o'i flaen, gan gynnwys traethawd ysgolheigiaidd Mr. T. H. Lewis, M.A., ond nodwyd na ellid gobeithio am ei gyhoeddi oni bai am ei haelioni ef. Hysbyswyd ein bod yn dal i ennill ambell "aelod am oes". Soniodd Dr. R. Tudur Jones am y cynllun sydd ar waith eisoes i ysgrifennu Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru o 1889 ymlaen. Anfonid holiadur allan gyda hyn, ac eid ymlaen â'r gwaith heb oedi. Anerchwyd y Gymdeithas gan Dr. W. T. Pennar Davies, B.A., B.Litt., ar "Baledi Gwleidyddol yn ystod chwyldro'r ail ganrif ar bymtheg". Diolchwyd iddo am ei draethiad meistrolgar gan y Prifathro Gwilym Bowyer, B.A., B.D., ac eiliwyd gan Mr. Gwynfor Evans, M.A., LL.B., Cadeirydd yr Undeb. E. LEWIS Evans, Ool. ac Ysg.