Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae rhywbeth rhyfedd yn y symudiad presenol i Awstralia. Nid oedd, mae'n debygol, dim ond aur a allasai gynhyrfu cymaint ar ddynion i adael gwlad eu genedigaeth. Yr oedd tua deugain o lestri i hwylio i wahanol daleithiau Awstralia yr wythnos ddiweddafyn Awst. Os cymerir yr holl ymfudiaeth i fewn, bernir fod tua 4000 yn yr wythnos yn gadael y wlad yma yn barhaus.'1 Amhosibl yw dweud pa sawl Cymro oedd ymhlith y minteioedd hyn, ond o ddarllen y llythyrau a ymddengys yn weddol gyson yn Yr Amserau, Y Cymro (Treffynnon) a chylchgronau enwadol y pum-degau, gellir casglu bod y nifer yn un pur sylweddol. Yn Yr Amserau, Hydref 27, 1852, er enghraifft, ceir câno waith rhyw fardd o Gaergybi ar achlysur priodas D. H. Evans (Daniel Ddu o Fôn) a Miss Rachel Edwards, Bassaleg, Mynwy, a'u hymadawiad hwynt yn nghyda chyfeillion ereill i Awstralia.' Cyhoedda'r Cymro, drachefn, fis Ionawr 1853, fod y llong Coldstream o Lundain a'r Julia and James Platt o Lerpwl ill dwy wedi cyrraedd Awstralia yn ddiogel, gydag amryw ymfudwyr o dref a chymdogaeth Dinbych ar eu byrddau; ac yn rhifyn Awst 30, 1854, ceir y newydd hwn Ymadawodd dros ddeuddeg o ddynion ieuainc o Gaer- gybi a'r gymdogaeth yr wythnos ddiweddaf, o ba borthladd cymerasant eu hymdaith i'r cloddfeydd. Maent yn gryfion a nerthol ac yn debygol o ynill eu bywyd yn y drefedigaeth.' Ni ellir llai nag edmygu ffydd a hyder yr anturiaethwyr hyn. Yr oedd y fordaith yn un arswydus o faith, ac yn aml yn llawn o beryglon, fel y tystia Owen Edward Jones, ymfudwr o ardal Dolgellau: Cafodd y llong,' meddai ei chon- demnio ar ôl cyrraedd pen ei thaith. Bu ar dân am dri diwrnod ac mewn ystorm beryglus yn y 11852, 317-8.