Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y COFIADUR ANNIBYNWYR A LLYTHYRAU TREFECA. Fe wahoddwyd y diweddar Ddr. M. H. Jones i annerch Cymdeithas Hanes yr Annibyn- wyr yng Nghymanfa 1930, ond bu Dr. Jones farw cyn y gallodd gyflawni ei addewid i annerch ar y testun "Yr Annibynwyr Cymreig a Howel Harris." Cafwyd anerchiad gan Dr. R. T. Jenkins ar y testun yng Nghymanfa Rhos- llannerchrugog yn 1934, ac ymddangosodd ei gyfraniad gwych arno yn Y Cofiadur yn 1935. Math ar atodiad i'w gyfraniad ef yw'r drafod- aeth hon. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf bûm yn darllen a chopïo rhai cannoedd o lythyrau Trefeca ar gais Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Cal- finaidd, gyda'r bwriad o wneuthur detholiad go dda ohonynt i'w cyhoeddi mewn dwy neu dair cyfrol. Wrth fynd drwyddynt, meddyliais y byddai'n beth da pe rhoddid sylw unwaith eto i lythyrau rhai o Annibynwyr y ddeunawfed ganrif at Howel Harris. Argraffwyd nifer o'r llythyrau hyn yn Y Cofiadur, 1935, ac yng nghylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, eithr brawddeg neu ddwy a gyhoeddwyd o ambell un, a cheir rhai llythyrau heb eu nodi o gwbwl. Cyfeiria Dr. Jenkins at Henry Palmer o Henllan Amgoed.1 Ef oedd y gwr a roes wahoddiad i Howel Harris i Ddyfed yn 1740. Lletyai Harris yn Llwyndrysi, ei gartref, ar nos Lun 10 Mawrth 1740, ac ymhen pythefnos wedyn anfonodd ef a dau arall-Rees Davies o'r Canerw a John David, 1Y Cofiadur, 1935, t. 13,