Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

THOMAS BADDY AC YMDDIRIEDOLWYR CRONFA DR. DANIEL WILLIAMS. Gadawodd Dr. Daniel Williams (1643?­ 1716), brodor o gyffiniau Wrecsam, ran o'i arian i sefydlu saith neu wyth o ysgolion elusennol yng ngogledd Cymru. Daethant i fod- olaeth tua 1724 a lleolwyd un ohonynt yn Ninbych. Trwy garedigrwydd y Parch. W. T. Owen, B.A., B.D., King's Cross, Llundain, ac un o blant Lôn Swan, Dinbych, cefais gopiau o'r cyfeiriadau a'r llythyrau yng nghofnodion Ymddiriedolaeth Dr. Williams sydd yn trafod yr ysgol yn Ninbych. Yma rhoir dyfyniadau o'r Cofnodion sy'n taflu peth goleuni ar eglwys a gweinidogion Lôn Swan. Rhoddir yr ohebiaeth a fu rhwng yr Ymddiriedolwyr a Thomas Baddy yn llawn. Ychydig a wyddom am Baddy. Ceir prif ffeithiau ei fywyd yn erthygl Dr. R. T. Jenkins arno yn Y Bywgraffiadur Cymreig. Bu'n weinidog yn Nin- bych o 1693 hyd 1729. Dywaid yn un o'i lythyrau mai o Wrecsam yr hanoedd a bu ei frawd, Owen, yn ysgolfeistr yn ysgol Dr. Williams yn y dref honno. Yn ystadegau'r Dr. John Evans yn 1715 dywedir mai trigain oedd rhif y gwrandawyr yn eglwys Mr. Baddy ac yn cynnwys, "One member worth between £ 4000 and £ 5000, three worth £ 500 each, the rest tradesmen and farmers, no beggars, 8 votes for the County and 12 for the borough." Fel y gwelir oddi wrth y cyfeiriadau yn ôl llaw, rhaid bod sefyllfa economaidd yr eglwys wedi gwanychu ar ôl hyn, neu fod y Dr. John Evans yn rhoi gwedd rhy ffafriol ar gadernid ariannol y gynulleidfa. Dengys y cofnodion y cysylltiadau agos rhwng yr ysgolion a'r eglwysi yn Ninbych a Threlawnyd (Newmarket). Y gweinidogion oedd yn arolygu gwaith yr ysgolion ar y cychwyn.