Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWEINIDOGION YMNEILLTUOL DIN- BYCH YN Y DDEUNAWFED GANRIF Gwnaeth y Parchg. W. T. Owen, B.A., B.D., King's Cross, Llundain, waith tra gwerthfawr wrth gopio'r cyfeiriadau at Ddinbych yng nghofnodion Ymddiriedolwyr Cron- fa'r Dr. Daniel Williams. Casglwyd y cyfeiriadau at Thomas Baddy yn erthygl Mr. W. A. Evans, Dinbych, yn y rhifyn hwn. Ond y mae gwybod- aeth bellach i'w chael yn nhrawsysgrif y Parchg. W. T. Owen. Yng ngoleuni honno a'r nodiadau arni a anfonodd Mr. W. A. Evans, gellir ychwanegu amryw fanion at ein gwybodaeth am weinidogion Annibynnol Dinbych yn y ddeunawfed ganrif. Ceisir awgrymu'r wabodaeth newydd yn yr erthygl hon. THOMAS BADDY. Dechreuir gyda Thomas Baddy. Er bod W. D. Jeremy yn The Presbyterian Fund (1885), yn dweud yn bendant ddigon i'r Dr. Daniel Williams gael ei eni yn Wrecsam (tud. 81), nid oes sicrwydd, fel y cyfeiria'r Dr. R. T. Jenkins yn ei erthygl arno yn Y Bywgraffiadur, ai yn y dref ei hun ynteu yn y cyffiniau y'i ganwyd mewn gwirionedd. Yn y llythyr dyddiedig 22 Hydref, 1728 (ac a brintir uchod) dywaid Baddy amdano'i hun a'r Dr. Williams "we were born in the same town." Y mae hyn, gyda'r ffaith i'r Bwrdd Presbyteraidd roi arian i Baddy yn 1690 gan ei ddisgrifio fel "Mr. Tho. Baddie of Wrexham" (Nicholson and Axon, The Older Nonconformity of Kendal9 tud. 579) yn mynd beth o'r ffordd tuag at leoli man geni'r ddau yn nhref Wrecsam. Yn ei ewyllys ordeiniodd Dr. Williams fod ail- gyhoeddi ei lyfrau o bryd i'w gilydd, ac yn neill-