Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COFNODION Y GYMDEITHAS HANES 1956. Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas yn Adulam (B), Pontardawe, dydd Mercher, Mai 30, 1956 am 5 o'r gloch. Dewiswyd Mr. T. H. Lewis, M.A., Caerdydd yn Gadeirydd am y tro. Offrymwyd gweddi gan y Parch. Moelwyn Daniel, Abergwili. ( 1 ) Derbyniwyd y cofnodion argraffedig fel rhai cywir. (2) Hysbysodd Dr. Lewis Evans ei fod ef a'r Dr. Tudur Jones wedi danfon Y Cofiadur i'r mwyafrif o'r aelodau ac y byddai'r gweddill yn ei gael ar ddiwedd y cyfarfod, neu drwy'r Post. (3) Dewiswyd y Parch. Gwilym Parry, B.A., Llanfairfechan, i gynorthwyo'r Golygydd (Dr. Tudur Jones) i ddosbarthu'r COFIADUR o hyn ymlaen. (4) Mynegodd yr Ysgrifennydd (Y Parch. R. Ifor Parry) lawenydd diffuant y Gymdeithas ar adferiad iechyd ei Llywydd, y Parch. J. Dyfnallt Owen, M.A. a hefyd ein llongyfarchion i'r Parch. E. Lewis Evans, M.A. ar ennill gradd Doethur. (5) Yn absenoldeb y Trysorydd, cafwyd braslun o'r sefyllfa ariannol gan y Dr. Lewis Evans. Er fod peth arian mewn llaw, apeliodd at y tanysgrifwyr i gyfrannu'n brydlon, am fod amryw filiau i'w talu. (6) Ar ddyfodiad y llywydd, pwyswyd arno i gymryd y Gadair a phenderfynwyd yn unfrydol fod Mr. T. H. Lewis i fod yn Is-Lywydd y Gymdeithas. (7) Penderfynwyd mai'r Pwyllgor oedd i ddewis siaradwyr at y dyfodol. (8) Anerchwyd y Gymdeithas gan y Parch. Gomer M. Roberts, M.A., Pontrhydyfen ar "Yr Annibynwyr a Llythyrau Tre- feca." Cyhoeddir y gwaith yng Nohofiadur 1957. (9) Diolchwyd iddo'n gynnes iawn gan Mr. T. H. Lewis, am ei anerchiad ac am ei gyfraniadau gwerthfawr i lenyddiaeth Cymru. Eiliwyd gan y Dr. Lewis Evans a phasiwyd yn unfrydol fod y Parch. Gomer M. Roberts i fod yn aelod anrhydeddus o'r Gymdeithas. Argraffwyd gan J. D. Lewis a'i Feibion Cyf., Gwasg Gomer, Llandysnl