Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y COFIADUR WILLIAMS O'R WERN Y PREGETHWR* Un BORE ym Medi 1827, fe benderfynnodd bachgen ieuanc i gerdded yr wyth milltir o Lansannan i dre Dinbych. Ei fwriad oedd cyrraedd Capel Lôn Swan erbyn oedfa naw o'r gloch y bore, ar ddiwrnod olaf Cymanfa bregethu Annibynwyr y sir. Yr oedd yr adeilad yn orlawn a hanner cant o bregethwyr yno, a'r ffenestri'n agored fel y medrai'r dyrfa luosog yn y cwrt tu allan gael cyfle i wrando'r genadwri. Fe ddechreuwyd yn brydlon gan weinidog o Sir Gaernarfon, ac yna ddau bregethwr yn traddodi ond heb fawr o eneiniad. Fe gododd y trydydd ar ei draed, a rhoddodd bennill allan i'w ganu, ac wrth gyhoeddi'r testun fe gerddai ias ar war y gynulleidfa: 'Chwi a fwriadasoch ddrwg i'm herbyn, ond Duw a'i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben fel y gwelir heddyw, i gadw yn fyw bobl lawer.' A chyn pen ychydig funydau yr oedd effeithiay y Uef ddystaw fain i'w gweled yn rhyddhau y mynyddoedd heb yn wybod iddynt, a swn yr awel yn chwareu yn mrig y morwydd'. Gwilym Hiraethog oedd y bachgen hwnnw, a'r pregethwr — neb llai na Williams o'r Wern. Mae'r dystiolaeth am yr oedfa honno'n bwysig wrth inni ystyried rhai agweddau ar bregethu Williams. I ddechrau mae'n dwyn i gof oedfa gyffelyb yn yr un capel, genhedlaeth neu ddwy ynghynt. Y tro hwnnw tad Hiraethog oedd y gwrandawr, a David Davies, Abertawe yn pregethu. Yr oedfa ryfedd honno oedd sgwrs y daith adref i Lansannan, a'r modd y llwyddodd y pregethwr i gyffroi y gynulleidfa, ac hyd yn oed William Lewis y Methodist tanllyd.2 Onid David Davies Traddodwyd y ddarlith hon yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Hanes Annibynwyr Cymru 29 Mehefin, 1977, yng Nghapel Pen-dref, Caernarfon. i T. a D. Roberts, Cofiant y Parch. W. Rees, D.D. (Dolgellau, 1895). tt. 66-67. 2 T. Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynol Cymru (1872), ii, 53.