Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DWY GERDD WRTH-YMNELLTUOL O FON Dyrys anodd yw dyddio'r ddwy gerdd a argreffir isod, y naill yn cynnwys wyth o benillion a'r llall yn cynnwys pump englyn ar hugain. Ni nodir man eu hargraffu na chwaith eu hawduron. Fe'u hargraffwyd gyda'i gilydd yn bamffledyn wyth tudalen. Gwelais ddau gopi o'r pamffiedyn un yn y Llyfrgell Brydeinig, Llsgr. Chwanegol 15059 a gyd-rwymwyd gyda phamffledi eraill ar ddechrau llawysgrif o farddoniaeth Gymraeg o'r XVII ganrif. Ceir ail gopi yn ein Llyfrgell Genedlaethol. Er nad yw'r ddau gopi yn gwbl berffaith fe lwyddais i sicrhau testun pur gyflawn trwy eu rhoi ynghyd. Carwn awgrymu bod y pamffled hwn yn un mewn cyfres o bamffledi a llyfrynnau a gyhoeddwyd gan rai o offeiriaid Môn ac eraill dros y blynyddoedd 1747-53 er amddiffyn Eglwys Loegr ac i ymosod ar yr Ymneilltuwyr. Gellir cymryd Medi 1741, sef amser dyfodiad William Prichard (1703-73) i Fôn, fel blwyddyn ymwreiddio Methodistiaeth ac Ymneilltuaeth yno. Mewn byr amser fe gynyddodd y ddwy garfan yn fawr. Hyn yw tystiolaeth William Morris (1705-63), yr Eglwyswr selog o Gaergybi, mewn llythyr dyddiedig 19 Gorffennaf 1745 at ei frawd Richard (1703-79) yn Llundain: This country, which some few years ago might be said not to have six persons within it of any other persuasion than that of the Church of England, is now full of Methodists or Independents or Presbyt- erians, or some other sect, the Lord knows what. I believe they don't themselves. The Welch name for 'em is pennau crynnion; they've licenced preachers and chapels. Yr oeddid yn bur anfodlon oherwydd y cynnydd hwn ac ymroes rhai o'r Eglwyswyr i erlyn nifer o'r 'pennau crynion' gerbron y llysoedd gwladol ac eglwysig. At hyn troesant rai ohonynt o'u ffermydd, difrodi eu heiddio, eu gwawdio a'u camdrin yn enbyd. Ni buont yn hir o amser cyn defnyddio'r gweisg argraffu er ceisio atal y chwyldro crefyddol a fyrlymai o'u cwmpas. Cwbl ofer fu eu hymgais. Nid rhyfedd fod Ymneilltuwyr a Methodistiaid Môn wedi closio at ei gilydd i wynebu'r erlid. Yn wir nid oedd fawr ddim gwahaniaeth rhyngddynt ac fe elwid yr Ymneilltuwyr yn Fethodistiaid a'r Methodistiaid yn Ymneilltuwyr. Am fyr amser, sef o 1744 hyd 1748 bu Ymneilltuwyr yr 1 J. H. Davies, gol. The Letters ofLewis, Richard, William andJohn Morris ofAnglesey (1907) i, 83.