Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFARFOD BLYNYDDOL Ar Ddydd Mercher, 29 Mehefin 1977, am 5 o'r gloch fe grynhôdd selogion Cymdeithas Hanes Annibynwyr Cymru i Gapel Pen-dref, Caernarfon. Offrymwyd gweddi gan y llywydd y Parchedig Brifathro R. Tudur Jones. Cyflwyn- odd ef y darlithydd, sef y Parchedig J. Arwyn Phillips. 'Williams o'r Wern y Pregethwr' oedd testun y ddarlith a draddodwyd ganddo. Ar ddiwedd y cyfarfod caed byr air gan yr ysgrifennydd yn dwyn sylw at Y Cofiadur Rhif 42 a ddaethai o'r wasg. Yna cyn terfynu'r cyfarfod gyda chanu emyn fe ddiolchwyd yn gynnes i'r darlithydd gan yr Athro Dafydd Rhys ap Thomas. Ysgrifennydd PWYLLGOR Y GYMDEITHAS Cyfarfu'r Pwyllgor yn Nhŷ John Penry ar Ddydd Mercher, 6 Gorffennaf 1977. Etholwyd y Parchedig Dafydd Wyn Wiliam yn Ysgrifennydd y Gymdeithas. Cytunwyd i gyf- ethol holl ddosbarthwyr Y Cofiadur yn y cyfundebau yn aelodau o'r Pwyllgor. Er mwyn sicrhau dyfodol Y Cofiadur barnwyd y dylid anelu at sefydlu cronfa o £ 1,000 ac o'i fuddsoddi arfer y llog a geid i dalu costau argraffu a dos- barthu'r cylchgrawn. Yr oeddid i wahodd y Parchedig Trevor Watts i draethu'r ddarlith flynyddol yn Undeb 1978, ac onid oedd Darlith Goffa Dyfnallt i'w thraddodi yn y flwyddyn ddilynol yr oeddid i gymell Geraint Tudur i draethu darlith 1979. Ysgrifennydd