Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PWYLLGOR Y GYMBEITHAS Cyfarfu aelodau'r Pwyllgor ar 31 Mai 1978 yng Nghapel y Graig, Llandysul. Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth y Parchedigion J. Arwyn Phillips ac E. Lewis Evans. Sylwyd ar lythyr a dderbyniwyd oddi wrth yr olaf o'r ddau a enwyd oedd yn datgan y carai gael ei ryddhau o'i swydd fel llywydd y Gymdeithas. Mynegwyd diolch iddo am ei wasanaeth gwerthfawr (yn ei absenoldeb) ac yr oeddid i gyflwyno'r diolch yn fanylaoh trwy lythyr. Etholwyd y Parchedig W. J. Griffiths i olynau'r Parchedig E. Lewis Evans. Darllenwyd cofnodion y Pwyllgor blaenorol fel y'u hargraffwyd yn Y Cofiadur (1978). Adroddodd yr ysgrifen- nydd fod [269 wedi dod i law i 'Gronfa'r Cofiadur'. Yr oedd y cyfalaf i'w fuddsoddi yng Nghymdeithas Tai Gwyn- edd. Derbyniodd y Parchedig Geraint Tudur y gwahoddiad i draethu darlith 1979 a phenodwyd y Dr E. D. Jones i lywyddu ar yr achlysur hwnnw. Caed gwybodaeth mai Mr D. Tecwyn Lloyd oedd i draddodi 'Darlith Goffa Dyfnallt' yn 1980 ac yr oeddid i wahodd yr Athro Glanmor Williams i ddarlithio yn 1981. (Da gennym ddweud ei fod ef erbyn hyn wedi derbyn y gwahoddiad.) Barnwyd y dylai unrhyw rai oedd eisoes yn 'aelodau am oes' o'r Gymdeithas i bar- hau i fwynhau'r fraint honno. Y CYFARFOD BLYNYDDOL Cadeiriwyd y Cyfarfod, a ddechreuwyd am 5 o'r gloch, gan Mr J. Tysul Jones. Wedi i'r Parchedig W. Rhys Nicholas offrymu gweddi fe gyflwynwyd y darlithydd, sef y Parchedig Trevor Watts, gan y cadeirydd. Yn dilyn hyn fe wrandawyd yn astud ar y darlithydd yn manylu ar *Wil- liam Wroth, Piwritan ac Apostol Cymru'. Wedi i'r ysg- rifennydd ddwyn sylw at rai materion fe ddiolchwyd i'r darlithydd gan y Parchedig R. Leonard Hugh. Mynegodd y Cyfarfod ei fod, úm flwyddyn arall, yn ymddiried gofal y Gymdeithas Hanes i'w phrif swyddog- ion. Terfynwyd trwy gyd-adrodd y Weddi Apostolaidd. YR YSGRIFENNYDD