Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae'r rhifyn cyfredol hwn o'r Cofiadur yn cynnwys y ddarlith a dra- ddododd Mr. Tomos Roberts, Archifydd Coleg Prifysgol Cymru Bangor, yng Nghyfarfod y Gymdeithas Hanes yn Undeb Bangor y llynedd ar helynt y Ddau Gyfansoddiad. Bydd pawb a glywodd y ddarlith honno yn falch i'w chael mewn print gan ei bod hi'n cyfleu darlun gofalus ac eglur o ddadl allweddol yn hanes Annibyniaeth Gymraeg yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf. Diolchwn i Mr. Roberts am ei pharatoi hi i'w chyhoeddi yma fel y gellir ei chadw mewn ffurf barhaol. Yn wir, rhwng y ddarlith hon a gwaith Mr. Huw Walters o'r Llyfrgell Genedlaethol ar Yr Adolygiad a'r Beirniad, y cynhwysir adolygiad ohono yn y rhifyn hwn, cawn olwg go lawn ar amryw weddau ar ddatblygiad Annibyniaeth yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Diolchwn i'r Parchedig Trevor Watts am ei nodiadau ar Trysorau'r Eglwys ac i'r Athro Ieuan Gwynedd Jones am ei adolygiad ar y gyfrol Saesneg 'Anghydffurfiaeth Brotestannaidd a Gorllewin Canolbarth Lloegr', o dan olygyddiaeth Alan P.F. Sell. Y mae'r gyfrol hon yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd a draddodwyd yng Nghynhadledd Gyntaf Cymdeithasfa Cymdeithasau Hanesyddol Enwadol a Llyfrgelloedd Cysylltiedig yn Selly Oak, Birmingham yn 1995. Y Dr. Alan Sell yw Cynullydd y Gymdeithasfa hon y mae Cymdeithas Hanes yr Annibynwyr Cymraeg yn aelod ohoni. Y mae'r Gymdeithasfa yn cyflawni gwaith pwysig drwy baratoi casg- liadau o destunau Ymneilltuol hanesyddol ar gyfer y wasg fesul canrif ar y tro, gyda'r Parchedig Ddoctor R. Tudur Jones yn gyfrifol am olygu a dethol testunau'r ail ganrif ar bymtheg. Y mae'r Gymdeithasfa hon, y cynhelir ei chyfarfod blynyddol yn Llyfrgell y Doctor Williams, 14 Gordon Square, Llundain ar 30 Hydref 1997 yn gwneud trefniadau ar gyfer y Mileniwm hefyd pryd y cynhelir ei hail gynhadledd yng Ngholeg Westhill, Selly Oak, Birmingham ar 26-29 Gorffennaf, 2000 O.C., lle y teflir cipdrem yn ôl ar hynt a helynt Anghydffurfiaeth Brotestannaidd yn Lloegr a Chymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ceir rhagor o wybodaeth eto yn y Cofiadur am y gynhadledd gynhwysfawr hon. Cofnodir gyda thristwch farwolaeth y Cyn-Brifathro y Parchedig Ddr. W.T. Pennar Davies ar ddydd Sul, 29 Rhagfyr 1996. Gwr a fu'n gyfaill da i Gymdeithas Hanes yr Annibynwyr ac i'r Cofiadur dros y blynyddoedd. Bu'n aelod o bwyllgor y Gymdeithas er y flwyddyn 1973 a chyfrannodd yr erthyglau canlynol i'r Cofiadur: Dyddlyfr Philip Dafydd (Rhifyn 29, 1959) Trefniadaeth yr Eglwys Fore (Rhifyn 30, 1960) Gwilym Hiraethog y Bardd (Rhifyn, 52, 1987)