Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORAU'R EGLWYS Mae'r hen achos Annibynnol yn yr Amwythig, sy'n hanu o'r 17eg ganrif yn esiampl dda o Eglwys sydd wedi trysori a chadw'n ddiogel ei chof- nodion hynafol. Bu James Quarrell a Chymry eraill yn weinidogion ynddi. Trwyddedwyd tai i bregethu ynddynt yn y dre yn y flwyddyn 1672, gan yr Annibynwyr, y Presbyteriaid (Undodiaid erbyn hyn), a'r Bedyddwyr a addolai o fewn muriau'r dre. Daeth yr Annibynwyr a'r Presbyteriaid dan ofal Job Orton yn y blynyddoedd 1741-65. Wedi 1766 aeth yr Annibynwyr ati i godi capel newydd yn Swan Hill. Robert Gentleman oedd y gweinidog cyntaf, ac aeth oddi yno i fod yn athro yng Ngholeg Caerfyrddin yn 1779, ac fe'i dilynwyd yn yr Amwythig gan Samuel Lucas o Walsall. I'r tri a enwyd, sef Job Orton, R. Gentleman a Samuel Lucas y mae'n dyled am gofnodi a chadw cofnodion a chofrestri'r Achos dros y blyn- yddoedd cyntaf. Cedwir cofnodion yr Eglwys Undodaidd yn y Shirehall, (PRO) Amwythig, tra cedwir rhai Swan Hill yn y Capel. Dyma fanylion yr hyn sydd yng ngofal Swan Hill: 1 Rhestr o'r aelodau, bedyddiadau, marwolaethau (achos mar- wolaeth wedi ei osod mewn llawfer) system Jeremy Rich o'r 17eg ganrif, wedi'i ddiwygio gan Philip Doddridge, tua 1750, yn rhoi rhif ac enwau'r aelodau o'r ddwy eglwys hyd 1696. Copi yw hwn o gofnodion Capel y Presbyteriaid o ddyddiau'r 'Happy Union', a gedwir yn y PRO. 2 Copi vellum o'r aelodau 1779-96, wedi symud i Swan Hill yn 1766-7. 3 Llyfr Claddedigaethau a Bedyddiadau ac enwau'r aelodau. 4 Llyfr personol Samuel Lucas, written for my private use yn rhestru'r aelodau, bedyddiadau a marwolaethau ac enwau'r diaconiaid ynghyd â manylion, a swm y casgliadau ynghyd â manylion, a swm y casgliadau ynghyd â'i Gyffes Ffydd yn seiliedig ar Actau 4:32, Rhufeiniaid 15:6, yr adnodau mewn llawfer, ynghyd â rhestr yr aelodau yn ei eglwys gyntaf yn Walsall ac yna fanylion tebyg Swan Hill 1776-96; 43 tudalen. 5 Llyfr Casgliadau (Rhifedig No.27) o Lady's Day 1779-1818, gyda thaliadau hanner blwyddyn i Gentleman a Lucas a Thomas Weaver yn eu tro. 6 Llyfr Claddedigaethau a lleoliad y beddau o flaen neu tu ôl i'r Capel yn Swan Hill (1789-1811). 7 Llyfr Cyfamod a Rheolau'r Eglwys wedi'i arwyddo gan Thomas Weaver a'r diaconiaid. 8 Llyfr Ysgol Sul (1799-1804) a (1844-76). Dyma lyfr Ysgol Sul unigryw ar sail y dyddiad. Llyfr cownt yr Ysgol Sul (1880-1937). Llyfr cyfrifon ariannol i'r Genhadaeth. Hefyd Llyfr Cyfrifon Auxiliary yr L.W.S. 1875-96.