Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU Alan P.F. Sell (gol) Protestant Nonconformists and the West Midlands of England: Papers Presented at the First Conference of the Association of Denominational Historical Societies and Cognate Libraries (Keele, 1997), 179tt. Pris £ 40. Dyma'r gyfrol gyntaf mewn cyfres sy'n bwriadu astudio agweddau ar ddatblygiadau hanesyddol y gwahanol enwadau Anghydffurfiol Protestannaidd a geir yn Lloegr a Chymru gyda'r bwriad cyffredinol o fesur a phwyso cyfraniad Anghydffurfiaeth i syniadaeth Gristionogol fodern. Y mae hyn ynghyd â'r bwriad i gyhoeddi nifer o destunau arwyddocaol o blith y traddodiadau gwahanol yn gynllun tymor-hir uchel- geisiol ac yn un y dymunwn bob llwyddiant iddo. Y mae'r gyfrol gyntaf hon yn cynnwys y saith traethiad a draddodwyd yng nghynhadledd agoriadol y Gymdeithasfa newydd a sefydlwyd yn 1992 gyda'r bwriad o feithrin a chydlynu gwaith ymchwil yn y maes. Fel y mynegwyd yn y teitl, y mae'r llyfr yn trafod datblygiad Anghydffurfiaeth mewn un ardal arbennig yn Lloegr, sef siroedd gweinyddol Warwick, Amwythig, Stafford, Henffordd, Caerwrangon a Chaerloyw. Fe all fod o gymorth i'r darllenwr os tynnir ei sylw at y ffaith mae ardal yw hon a ddiffynir gan hwylustod gweinyddol yn fwy nag yn ôl unrhyw nodweddion daearol neu gymdeithasegol cyffredin. O'r safbwynt econo- maidd y mae hi'n ardal sy'n cynnwys rhai o gylchoedd dinesig mwyaf poblog y wlad. Yn y fan yma yr oedd calon y Chwyldro Diwydiannol yn curo gan bwmpio'i hegni ar hyd camlesi a rheilffyrdd i bob rhan o'r wlad ac, yn wir, i weddill y byd datblygiadol. Yr oedd hi'n ardal a ddenai nifer- oedd lluosog o bobl o bell ac agos i gloddio ei mwynau, i weithio'i ffwrneisi ac i lafurio yn ei ffatrioedd. Yr oedd De Cymru ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif yn fath o ymestyniad o'i diwydiant haearn: sefydlwyd Merthyr Tydfil gan arian a sgiliau o'r Canoldir a pharhaodd y cysylltiadau o'r ddwy ochr, y ffurfiwyd hwy yr adeg honno, ymlaen i'r bedwaredd gan- rif ar bymtheg ac i fewn i'r ugeinfed ganrif pryd y daeth Gorllewin Canolbarth Lloegr yn un o'r rhanbarthau yr heidiodd miloedd o Gymry iddo i ogoi'r dirwasgiad. Gwaith Margaret E. Gaynor ar Gryniaeth yn y ddeunawfed ganrif yw'r papur cyntaf. Fel y cydnebydd hi fe allai ei sylwadau ynglyn â Chrynwyr unigol a Chymdeithasau'r adeg honno fod yr un mor wir am unrhyw ran arall o'r wlad bron. Bodolai strwythurwaith enwadol cadarn ac yr oedd radicaliaeth y ganrif flaenorol yn rhoi lle i'w tawelyddiaeth ac i ganol- bwyntio sylw ar eu difygion eu hunain yn hytrach na dilyn yr ysgogiad gwreiddiol i bregethu'r Efengyl. Yr oedd disgyblaeth yn gwegian o dan bwysau llwyddiant bydol a'r anawsterau moel a nodweddai anyst- wythder y math o ddisgyblaeth y disgwylid i'r Cyfeillion ei chynnal. Ymddangosai i bob golwg fel enwad a oedd yn dirywio, eto i gyd