Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddechrau ynghanol y chwedegau, a oedd yn gyfnod o newid cyflym ar bron i bob agwedd ar fywyd ym Mhrydain, trodd yr ymgyrch i sefydlu ysgol yn 1876 yn sefydliad llwyddiannus Coleg Bourne blwyddyn yn ddiw- eddarach. Cyflwynir hanes y Coleg hyd at ei gau yn 1928 gyda manyl- rwydd hudol. Y mae hon yn astudiaeth dda iawn o sefydliad a wasanaethodd yr enwad yn dda, a sefydliad nad oes fawr o wybodaeth amdano. Cywirwyd y diffyg hwnnw gan gynnwys y bennod hon. Y mae'r llyfr hwn felly yn un diddorol a gwerth ei gael ac y mae'r golygydd a'i gynorthwywyr yn teilyngu ein diolchgarwch diffuant. Fe'i argraffwyd a'i rwymo'n raenus ac o ystyried y prisoedd cyfoes ar lyfrau academaidd nid ydyw wedi ei brisio'n rhy uchel. IEUAN GWYNEDD JONES Huw Walters, Yr Adolygiad a'r Beirniad: Eu Cynnwys a'u Cyfranwyr, Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1996, vii, 131tt. Pris: £ 7.00. Gwnaeth Mr. Huw Walters gymwynas fawr â phob Annibynnwr ac Annibynwraig sy'n ymfalchio yn eu hanes a'u traddodiad wrth gyn- hyrchu'r gwaith hwn, a chymwynas fwy â phawb sy'n ymchwilio i hanes crefyddol a diwylliadol Cymru yn y ganrif ddiwethaf. Oherwydd er byred parhad Yr Adolygiad (1850-53) ac i'r Beirniad ddod i ben ar ôl cyfnod o ugain mlynedd (1859-79), cyflwynodd y ddau gylchgrawn chwaterol hyn gyfraniad gweddol bwysig i ddatblygiad Enwad yr Annibynwyr Cymraeg yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cymwynas awdur y gwaith hwn yw iddo olrhain ac egluro arweddau amrywiol y cyfraniad hwnnw. Nid yn unig y cyflwyna Mr. Huw Walters ddisgrifiadau o gynnwys y cylchgronau hyn gan rhestru pob eitem ynddynt, sef 132 o eitemau yn achos 'Yr Adolygiad' ac 840 o eitemau yn achos 'Y Beirniad', ond rhydd arolwg gwerthfawr inni ar deithi meddwl a naws eu cynnwys ynghyd â gosod y cylchgronau hyn yng nghefndir hanesyddol y cyfnod. Gwna hynny drwy ysgrifennu rhagymadrodd gwirioneddol ddiddorol a defnyddiol o ddeunaw tudalen cyn rhestru'r eitemau yn ôl eu trefn yn y cyfrolau ac yna o dan enwau'r awduron neu'r cyfranwyr unigol. Mae'n cloi ei gymwynas wrth gyflwyno bywgraffiadau byrion o bob un o'r cyfranwyr. Y mae'r bywgraffiadau hynny yn ymestyn dros hanner cant namyn un o dudalen- nau ac yn dangos ôl ymchwilio dyfal a manwl. Oherwydd ochr yn ochr â'r gwyr enwog ac arweinyddion yr enwad y ceir eu hanes yn Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, ceir nifer luosocach o lawer o bersonnau llai amlwg y bu'n rhaid i'r awdur fynd i gryn drafferth i ddod o hyd i'w hanes a'i gyflwyno i ni. Y mae Mr. Walters i'w ganmol nid yn unig am iddo wneud hynny, ond