Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Ysfa Adeiladu Darlith Flynyddol Cymdeithas Hanes yr Annibynwyr, 2001 Yng nghyfarfodydd cyntaf Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yng Nghaerfyrddin ym 1872, traddododd y Parchedig Herber Evans, Caernarfon, anerchiad ag iddo'r teitl 'Gogwyddiadau Addoliadol yr Oes' Mynegodd trwyddo ei bryder am rai datblygiadau oedd yn digwydd o fewn i'r eglwysi Ymneilltuol, ac wrth gofío'n hiraethus am y dyddiau a fu, meddai, Yr oedd rhywbeth yn werinol yn ein hen gapeli; yr hen eisteddleoedd oeddynt yn rhydd i bawb yn ddiwahaniaeth; dim un fainc nad allai y tlotaf yn yr ardal ddyfod i fewn ac eistedd arni; ond fel y mae capeli heirdd yn cymeryd lle yr hen addoldai, a'r seti wedi eu gosod yn cymeryd lle yr hen feinciau rhyddion, y mae perygl i ni yn y dyfodol golli y bobl, y rhai sydd wedi bod yn brif nerth Ymneillduaeth Cymru pan y mae aelodau Seneddol, ynadon heddwch, a lluaws o foneddwyr yn dal sefyllfa o bwys yn mynychu capeli, ac yn weithwyr mor ffyddlawn a neb gydag achos y Gwaredwr, y mae perygl i ni feddwl gormod am gynulleidfa respectable Gofalwn beidio a rhoddi lIe i neb i dybied mai y bobl a fedrant dalu am eu seti yw yr unig rai sydd a chroesaw iddynt i'n capeli; a mwy, rhaid i ni barhau i'w llwyr argyhoeddi ein bod yn dymuno eu presenoldeb yn ein cynulliadau crefyddol Yr wyf fi yn hoff iawn o gynulleidfa gymysgedig mewn addoldy y tlawd a'r cyfoethog yn cyd'addoli ac yn cydfolianu yr un Duw, ar naill heb gofio ei fod yn dlawd, a'r llall heb feddwl ei fod yn gyfoethog am y diwrnod.2 Bwriad y ddarlith hon yw olrhain rhai o'r datblygiadau a barodd i Herber Evans ddweud hyn yn ei anerchiad. Byddwn yn edrych ar gyfnod eithriadol gynhyrfus yn hanes Ymneilltuaeth Cymru gan wyntyllu, gobeithio, ddatblygiadau yn ein doe yr ydym ni heddiw yn medi eu cynhaeaf. Byddwn yn ystyried y pedwar corff Ymneilltuol fel un mudiad ffaith a anwybyddir gennym yn fynych erbyn hyn wrth i ni or-bwysleisio y gwahaniaethau a oedd rhyngddynt, a cholli golwg ar yr undod gweledigaeth a thystiolaeth a'u nodweddai. Tra bo manylu yn digwydd ar y cyfnod rhwng 1840 a 1880, y cefndir bras i'r cyfan fydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, oherwydd yn ystod y ganrif honno, ac yn enwedig yn ei ail hanner, bu'r Ymneilltuwyr wrthi fel