Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

211 y flwyddyn, ond o 1680 hyd 1686 ni chofnodwyd ond 167 ohonynt,. sef cyfartaledd o 27 y flwyddyn. Rhai o siroedd Mynwy, Morgannwg,. Caerfyrddin, a Phenfro oedd toreth y Cymry, ond ceir ambell enw o'r Gogledd, ac amryw o bob un o'r siroedd eraill. Sicr yw, yn 61 y cofnodion, i 30 o sir Aberteifi fyned trosodd o Fryste, ac efallai nad aniddorol fyddai eu rhestru Henry Davis of Llansanffraid to Virginia John Rutherch of Cardigan to Barbadoes Mary Howell of Llangaron to Barbadoes Mary Howell do. to Barbadoes Griffith John of Cardigan to Barbadoes Elinor Lewis do. to Barbadoes Thos. Phillips Castell Newydd to Barbadoes Morgan Edward of Llanwnog to Barbadoes Ann Davies Trefredyn to Barbadoes Richard Stanley Cardigan to Barbadoes Mary Lewis do. to Barbadoes Wm. Poskins Llanarth to Barbadoes Ann Williams Lanercheron [aeron] to St. Christopher James Griffith of Cardighan to Virginia Margt. Williams of Llanwynog to Virginia Evan Williams of Lambeder [Lampeter] to Barbadoes Humphry Davis of Cardigan No place given George Bowen of Lambida [Lampeter] to Barbados James Morgan of Llanarth to Barbados Henry Morgan of do. to Barbados Owen David Lambalherne [Llanbadarn] to Barbados William Griffin of Llangippy [Llangybi] to Virginia David Jinkins of Cardigan to Virginia Inon Thomas do. to Virginia David Jenkins do. to Virginia James Jones Penorva [Penmorfa] to Virginia James Pugh of Lambaddarne to Virginia Hugh Ffloyd of Cardigan to Virginia Jenkin Lloyd, Stradmerrick in the Ship Dragon to Jamaica Owen Morgan Cardigan to Virginia or Maryland Rhaid yw cofio mai dim ond degwm o enwau'r lleoedd y deuai'r ymfudwyr ohonynt a gofnodir, ac nid yw'n amhosibl nad aeth llawer mwy o'r sir hon trosodd o Fryste. Aethpwyd a llawer o'r bobl hyn i ffwrdd trwy rym a gorfodaeth, a'u rhwymo cyn byrddio'r llongau fel pobl neu blant i'w prentisio mewn gwledydd tramor am gwrs o flynyddoedd. Gelwid hwynt yn Servants to Foreign Plantations'.