Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ymadael, fod mwy na hanner y ffermwyr wedi cael gostyngiad yn eu rhenti, a bod trethi'r tlodion wedi cynyddu. Achoswyd yr ymfudo niferus gan gynnydd poblogaeth, uno ffermydd bychain a'i gilydd, gorthrwm y tir, a threthi uchel, llethol, mewn canlyniad i ryfeloedd Napoleon. Deuai llythyrau i'r ardaloedd gwledig oddi wrth ymfudwyr a aethai i'r Unol Daleithiau yn annog eu perthnasau a'u cyfeillion i ddod allan ar eu holau. Enghraifft dda o'r modd y'u cyferchid yw'r llythyr a ganlyn, a ysgrifennwyd ar 18 Rhagfyr 1830 gan John Davies, Mt. Jackson, Pa., a oedd yn frodor o Ddihewyd Mor bell yr wyf fi yn deall nid oes achos i neb ofni dyfod drosodd i'r wlad hon, canys bydd yn sicr o gael bywoliaeth gysurus. Os bydd arian ganddo, dyma y fan iddo gael eu llawn gwerth, ac os crefftwr, dyma y wlad iddo wneud bywoliaeth gysurus wrth weithio ond tri diwrnod yr wythnos, ac os gweithiwr tlawd a theulu mawr fydd, ffarwel am byth am brinder lluniaeth, os bydd ynddo duedd i weithio. O na chlywwn am dlodion plwyf Dihewyd eu bod wedi eu trosglwyddo drosodd i'r America bob un, y rhai a allent weithio a'r rhai ni allent, o achos y mae yma olygydd yn cael ei bennodi bob- blwyddyn ymhob cantref, ond nid oes hanes fod neb byth yn pwyso arnynt am gynorthwy o achos tlodi Ac fe ddywaid yr un gwr ymhellach Pan y byddaf yn ystyried y tlodion sydd yna ag a wnant fywoliaeth gysurus yma, ac a fyddai yn fendith i'r wlad yna i gael eu gwared, ac ar yr un pryd yn fendith i'r wlad hon i'w derbyn, ac a fyddai yn waredigaeth fwy na hynny iddynt hwy, trwy ffoi o wlad lorn i wlad lawn, o wlad gaeth i wlad rydd Yn y flwyddyn 1841, ar y chweched o Ragfyr, aeth nifer o bobl i Aberteifi, lie bu'n rhaid iddynt aros am bedwar-diwrnod-ar-ddeg oherwydd gwyntoedd croesion, ond ar yr ugeinfed dyma hwylio tua Lerpwl a chyrraedd yno ar y pumed-ar-hugain, sef y Nadolig. Cytuno am eu mordaith a llong o'r enw James Lemon, a hwyliodd o Lerpwl ar 31 Rhagfyr, gyda hanner cant o ymfudwyr, gan fwriadu tirio yn Efrog Newydd. Bwrdd y llong yn gollwng, colled fawr ar yr ymborth, a hwythau heb na dillad na gwely sych tra buont arni. Ar 30 Ionawr 1842 bu noson ystormus ni welsai'r capten For Iwerydd mor arw erioed a'r noson honno. Collwyd y llyw, rhwygwyd yr holl hwyliau, a thorrodd y cwmpawd diweddaf a'r bulwarks oil. Buwyd am bedwar diwrnod ar ddeg heb na llyw na hwyl na chwmpawd, yn cael eu gyrru gan y gwynt, a bu'n rhaid troi yn 61 ac i mewn i Waterford, Iwerddon, ar 18 Mawrth. Ar 4 Ebrill hwyliasant mewn llong arall o'r enw George Washington, cyrraedd Efrog Newydd ar 14 Mai ac oddiyno i Blossburg erbyn 27 Mai. Pum wythnos ar hugain a phedwar diwrnod i fyned o sir Aberteifi i Blossburg Y mae hon yn enghraifft y ceid ei