Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YMNEILLTUAETH GYNNAR YNG NGHEREDIGION I CYFNOD Y WERINIAETH DYMA ni ar drothwyl cyfnod o drichanmlwyddiannau rhyfeddol o bwysig yn ein hanes. Ymhen ychydig ddyddiau daw'r nawfed ar hugain o fis Mai, drichanmlwydd union o'r dydd y safodd John Evelyn yn y Strand yn Llundain i fendigo Duw am gael gweld Siarl II yn marchogaeth i Lundain a'r Adferiad na bu ei debyg, yn ei olwg ef, ers y dydd y dychwelodd yr hen genedl o gaethglud Babilon. Nid yw'r Adferiad hwn o gymaint pwys i ni a'r adferiadau a ddaeth yn ei so adferiad y drefn esgobol ar yr eglwys sefydledig, ac ail-osod y Llyfr Gweddi Gyffredin fel y ffurf-wasanaeth cyfreithlon, gorfodol. Gyda hynny, daw trichanmlwyddiant yr anghydffurfio a'r drefn hon, a esgorodd ar ein hymneilltuaeth ni. Gadewch i ni, felly, fwrw golwg fras ar y sefyllfa fel yr oedd hi yng Ngheredigion dair canrif union yn 61. Er byrred fu oes y Weriniaeth cerddasai dylanwadau nerthol i gilfachau anghysbell Ceredigion drwy bregethu'r Piwritaniaid. Ni bu'r pregethu hwn heb ei groeso. Yn wir, aeth dau blwy, Dihewyd ac Ystrad, cyn belled a deisebu'r llywodraeth am weinidogaeth pregethu.2 Nid oedd y llywodraeth yn ddihitio, oherwydd yr oedd cyflwr crefyddol Cymru yn achos pryder a gofal i'r awdurdodau ar derfyn cyfnod y Rhyfel Cartref. Bu'r pwyllgor a elwid The Committee for Plundered Ministers yn sefydlu nifer o weinidogion yn y wlad gosodwyd rhyw bedwar-ar-ddeg mewn plwyfi yng Ngheredigion rhwng 1646 a 1648. Ceir eu henwau yn llyfr y Dr. Thomas Richards (A History of the Puritan Movement in Wales, tt. 65-6) Aberporth. John Roberts, 1648 Aberteifi a'r Ferwig. Richard Owens, 1646 Ciliau Aeron. Morgan Evans, 1647 Llanbedr. Rees Meredith, 1648 Llanbadarn Fawr. Evan Roberts, 1646 Llandysul. Edmund Vaughan, 1647 Llangrannog a Llandysiliogogo. David Pierce, 1646 Llanrhystud. Griffith Evans, 1648 Lledrod. Thomas Evans, 1647 Llangoedmor. Jenkin Lloyd, 1646 Penbryn. David Lloyd, 1647 Tremaen. David Davies, 1646 Troedyraur. Rees Hughes, 1647 Ystrad Meurig. William Lloyd, 1647 Yr oedd ffordd rydd i bregethwyr nerthol fel Walter Cradock a Vavasor Powell efengyl.u ar eu teithiau drwy'r sir. Yr oedd Evan