Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CEREDIGION CYLCHGRAWN CYMDEITHAS HYNAFIAETHWYR SIR ABERTEIFI JOURNAL OF THE CARDIGANSHIRE ANTIQUARIAN SOCIETY CYFROL (VOLUME) IV 1962 RHIFYN (NUMBER) 3 RHAI 0 GREFFTAU CEREDIGION* YN gyntaf a gaf i ddiolch o galon i chwi am fy ngwahodd yma heddiw i siarad ar agwedd o fywyd fy sir enedigol. Er fy mod wedi crwydro tipyn o'r hen sir yn ystod y blynyddoedd diwethaf, un o blant Ceredig- ion ydwyf o hyd, ac y mae i'r dalaith, o'r mor i Deifi, le cynnes iawn yn fy nghalon. Felly mae yn bleser ac yn fraint imi ddod yn 61 unwaith eto i'r hen gynefin. 'Rwy'n credu ei bod yn addas dros ben fy mod yn siarad a chwi heddiw ar destun crefftwaith, mewn tref a enillodd iddi ei hun gryn enwogrwydd fel canolfan crefftwaith o fri. Yn hanes Ceredigion, yn wir yn hanes Prydain, mae'r dref fechan yma yn enwog fel cartref rhaw Aberaeron a bilwg Aberaeron,' dau declyn syml ond hynafol sydd o hyd yn cael eu hysbysebu a'u gwerthu i bob rhan o'r byd gan rai o ffatrioedd mawr canolbarth Lloegr. Er bod yr efail ar lannau Aeron yn dawel ers blynyddoedd, a'r morthwyl mawr a ddefhyddid i guro y rhofiau a'r bilygau i'w siap yng nghasgliad yr Amgueddfa Genedlaeth- ol, mae i ofaint Aberaeron, er hynny, eu lie pwysig ac anfarwol yn hanes amaethyddiaeth Prydain, ac i'r dref ei henwogrwydd fel cartref crefftwaith o radd uchel iawn. Y CREFFTWR A CHYMDEITHAS Daeth y crefftwr i fodolaeth i ateb gofynion cymdeithas am arbenig- wyr a fedrai gyflenwi eu hanghenion beunyddiol. Yn y gorffennol, byddai Ilawer iawn o offer amaethyddiaeth ac o offer ty yn cael eu gwneud gan y trigolion eu hunain i'w defhyddio eu hunain, ond yr oedd *Anerchiad a draddodwyd i'r Gymdeithas yn Aberaeron, 24 Chwefror 1962.