Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I YN yr ysgrif hon cyfeiriwn ein sylw at rai o ddulliau bywyd beunyddiol y gymdeithas a fu yng nghefn gwlad godre Ceredigion hyd yn ddiwedd- ar iawn. Gwelodd y cyfnod 1890-1920 ddyfodiad llawer o'r offer a newidiodd gymaint ar fywyd gwlad-mashîn lladd gwair, beinder, a thractor-ond nid yw'r blynyddoedd hynny wedi diflannu'n llwyr o gof hynafgwyr hyd yn hyn. Cymorth arall i ni yw parhad hen ddulliau mewn llawer lie bach ac mewn llefydd caregog a diarffordd. Yn 1953 cyfrifasom bymtheg ar hugain o wyr, gwragedd, a phlant wrth gyn- haeaf gwair tyddyn wyth erw gweithient o ganol dydd hyd saith yr hwyr a rhacanau a phicffyrch a heb ddim o'r offer newydd sydd yn gyffredin ar ffermydd yr ardal. Yn y cyfamser llogwyd beler i'r gwaith ac yn 1960 'roedd chwe gwr wedi belo, a chywain y gwairalori, mewn dwy awr. Yn ystod haf 1959 gwelsom wyr yn taro yd a phladur ac yn rhwymo a llaw o fewn deng milltir i Aberystwyth. Felly nid yw'n rhy ddiweddar i gasglu'r ffeithiau a rydd i ni gyfle i ddisgrifio dulliau cyffredin bywyd yr oes a fu. Ond ni ellir disgrifio arferion unrhyw gymdeithas heb ddehongli. Heb ddehongliad ni fydd gennym ddisgrifiad, ni fydd gennym ddim ond cofnodiad am bentwr o arferion digyswllt a diystyr. Dyna wendid llawer casgliad o len gwerin nid ydynt ddim amgen na ffurf ar popular antiquities. Yma ystyriwn yn gyntaf wahanol ddulliau o dde- hongli arferion cymdeithasol, ac awn yn ein blaenau i edrych ar rai agweddau ar fywyd gwledig o safbwynt un o'r dulliau a grybwyllwn isod. Amlygwyd y broblem o ddehongli yn gynnar mewn astudiaethau cymdeithasol, a'r dull a fabwysiadwyd yn gyffredin oedd dehongliad hanesyddol o'r ffeithiau. Dehongliad in terms of antecedents a olygwn. Astudiaethau o bobloedd cyntefig oedd y rhain, heb dystiolaeth ysgrifenedig o'u hanes, na sicrwydd am alluoedd eu cof a hynny tra oedd techneg archaeoleg yn ei babandod. Cyfododd gwrthwynebiad yn erbyn y dull hwn o ddehongli ar sail mor ansicr galwyd y ddullwedd yn conjectural history a datblygwyd dull gwahanol. Enwyd y dull newydd ynfunctionalism ac ystyriwyd mai'r ffordd o ddehongli a deall natur arferion cymdeithasol oedd, nid yn 61 eu antecedents, ond yn 61 eu swyddogaeth (function) ym mywyd y gymdeithas. Eglurwn hyn drwy ddewis enghraifft a rydd i ni gynhorthwy pan fom yn astudio cymdeithas wledig. Brithir tafodiaith godre Ceredigion, *Seiliedig ar anerchiad a draddodwyd i'r Gymdeithas yn Aberystwyth, 28 Ebrill [962.