Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

WRTH ystyried y cyfiiod arbennig hwn yn hanes addysg y sir, hoffwn ddweud ar y dechrau nad dyma'r tro cyntaf destun fy anerchiad gael sylw gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Ceredigion. Fe gofiwch, 'rwy'n sicr, i Mr. Trott o Adran Addysg Coleg Aberystwyth ymdrin yn gymharol ddiweddar ag agweddau arbennig ohono yn ei erthyglau yn CEREDIGION, sef hanes tri Bwrdd Ysgol-Aberystwyth, Aberteifi, a Llanbedr. Fy mwriad i, y prynhawn yma, yw ceisio rhoi rhyw fraslun mwy cyffredinol o hanes y cyfiiod fel y'i datguddir, nid yn unig trwy gofhodion y Byrddau Ysgol, ond hefyd trwy lygaid, neu yn hytrach trwy eiriau, yr ysgolfeistri a gofhodir yn Log Books' eu hysgolion. Ond cyn i mi ddod at fan cychwyn yr hanes, sef 1870, blwyddyn Deddf Addysg Forster, y mae'n ofynnol i mi, mi dybia £ ddweud ychydig o eiriau ar gyfundrefn addysg y wlad cyn i'r Ddeddf bwysig hon ddod i rym. Yn nechrau'r ganrif dibynnai addysg elfennol plant y werin ar ymdrechion gwirfoddol gan Eglwys Loegr, gan Ysgolion Sul y gwahan- ol enwadau, gan gymdeithasau elusennol, yn ogystal ag ysgolion preifat a ddisgrifiwyd fel Dame Schools neu Private Adventure Schools. Y mae'n bwysig i nodi na ddechreuodd y Wladwriaeth gymryd unrhyw ran uniongyrchol yn natblygiad addysg elfennol tan 1833, pryd y rhoddwyd C20,000 mewn grantiau i helpu'r ddwy brif gymdeithas a oedd erbyn hyn wedi sefydlu nifer o ysgolion elfennol-ond am resymau digon gwahanol. Hyd yn oed pan greodd y Llywodraeth Bwyllgor y Cyfiin Gyngor dros Addysg-The Committee of the Privy Council for Eåucation-yn 1839, yr oedd yn eglur mai swyddogaeth y Pwyllgor hwn oedd, nid darparu addysg, ond ei chefnogi trwy gyfrwng y cymdeithasau gwirfoddol. Yn 181 1 ffurfiwyd y Gymdeithas Genedlaethol-The National Society—neu i roi ei theitl cyflawn—'Y Gymdeithas Genedlaethol er mwyn hyrwyddo Addysg y Tlodion yn egwyddorion yr Eglwys Sefydledig trwy Loegr a Chymru.' Prif amcan y mudiad, felly, oedd sicrhau i grefydd yr Eglwys Genedlaethol fod yn sylfaen i system o addysg genedlaethol a thrwy hynny i ofalu bod Catecism yr Eglwys yn cael y lie blaenaf yn hyfforddiant y plant. Yn naturiol iawn nid oedd cyfundrefii addysg o'r math yma, gyda'i holl bwyslais ar gredo Eglwys Loegr, wrth fodd yr Anghydfmrfwyr, yn cynnwys y nifer fawr o Anghydfiurfwyr Cymru He nad oedd dylanwad nac aelodaeth yr Eglwys yn cyfrif gymaint ag yr oedd yn Lloegr. Yn ei adroddiad ar Ddeheudir Cymru yn 1854 i Bwyllgor y Cyfrin Gyngor y mae'r ♦Anerchiad a draddodwyd i'r Gymdeithas yn Aberaeron, a6 Hydref 1963.