Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JOHN HUMPHREYS Davies (1871-1926), gan T. I. Ellis. Lerpwl, Gwasgy Brython, 1963. Tt. 277. Pris 2 is. Ni all y gyfrol hon lai na bod o ddiddordeb i bawb a gymer sylw o hanes Cymru dros yr hanner canrif o gylch 1900. Y mae'n cyffwrdd a hanes Cymru mewn cymaint o ffyrdd. I aelodau'r Gymdeithas hon y mae'r diddordeb yn arbennig 0 fawr, fel cofiant i un o blant y sir a'i carodd hi a'i gwahanol ardaloedd a chariad dwfn a deallus, wedi ei wreiddio mewn gwybodaeth lwyr o'u hanes ac mewn adhabyddiaeth o deithi eu traddodiad. Y mae trylwyredd ymchwil ac eangder gwybodaeth Mr. T. I. Ellis ei hun yn warant dros bwysigrwydd y gyfrol i unrhyw un a gymer ddiddordeb yn y testun. Yn ychwanegol at hynny yr oedd ganddo'r fantais ddechreuol yn yr achos hwn o wybodaeth deuluol a phersonol. Bu cyfathrach agos rhyngddo a'i ewythr o'i blentyndod. Ar ben hyn oil, cloddiodd yn ddygn mewn swm anferth o lythyrau cyfoeswyr a chydweithwyr J. H. Davies, ac yng nghofnodion y sefydliadau cyhoeddus ac academaidd y bu iddo gymaint rhan yn eu gweithgareddau. Tipyn o ysgytwad i mi oedd sylweddoli, peth a wyddwn hefyd fel ffaith, fyrred fu oes lafurus J. H. Davies, pedair-blynedd-ar-ddeg yn gofrestrydd a chwe blynedd brin yn brifathro Coleg Aberystwyth, a'r chwech wedi eu cwtogi gan gyfnod maith o wendid a gwaeledd, a chymaint o waith a gyflawnodd. Un o rinweddau mawr y cofiant hwn yw ennyn ffrwd o atgofion yn ei ddarllenwyr. Mae hynny'n rhan o bleser y darllen. Yng nghwmni llu o atgofion y darllenais i ef. Gofio, a chofio'n glir iawn, gweld J. H. Davies yn y gadair yn wynebu'r gynulleidfa yn yr allor (set fawr) yng nghapel Llangeitho, ar law dde'r pregethwr, neu'n sefyll i ganu heb lawer o arwydd fod ganddo ddawn at hynny- rwy'n tybio mai gweld hanes yr ardal a wnai yn wynebau'r gynulleidfa. Cofio'i lais yn eglur iawn yri holi'r ysgol yn Ysgoldy'r Cwrt Mawr, ac yn son am Môsis, a phawb arall yn dweyd Moses. Minnau yn niniweidrwydd ychydig wybodaeth yn credu mai arwydd oedd hyn o'i darddiad Iddewig y soniai Marged Marcws amdano yn y dosbarth y cofia Mr. T. I. Ellis fel minnau yn dda fod ynddo. Cofio cyd-gerdded ag ef ryw fore Sadwrn i bentre'r capel, ac yntau ar y gripyn wrth Bentre-p6th yn gofyn yn sydyn i mi a wyddwn i ymhle y ganed Daniel Rowland. Yr oeddwn i o dan naw oed, ni chofiaf faint, ac ni wyddwn. Ni chefais wybod ganddo yntau. Er ein bod wrth ymyl yr ysgol nid tuag yno y cyfeiriodd fi am wybodaeth. Gofynnwch i'ch tad,' meddai, fe ddwêd e wrthych.' Cyn ymwahanu, rhoes i mi chwecheiniog las, mewn cyfnod pan oedd ceiniog goch yn ffortiwn go dda i grwtyn. Cyn i mi fynd i'r Coleg yn 1923 trefnodd i mi gael sgwrs a'r Athro Edward Edwards yn y Cwrt Mawr, ac yno cytunodd y ddau ohonom mai anrhydedd hanes oedd y peth i anelu ato. Pan euthum, yn 61 arfer y pryd hwnnw, i dorri f'enw yn y llyfr yn ystafell y Prifathro yn Aberystwyth, gofynnodd i mi beth oedd fy nghynlluniau. Pan ddywedais wrtho, yr oedd ei ateb yn bendant- Peidiwch a bod yn ffdl, fel y mae'r farchnad ar hyn o bryd 'fydd yna ddim o'ch blaen ond dysgu mewn ysgol elfennol os mai anrhydedd hanes a gym'rwch chi. Cym'rwch Gymraeg. Fe fydd agoriadau yn y maes hwnnw yn y man. Petai un o'r Colegau'n gofyn am ddarlithydd mewn Cymraeg yfory fe fyddai'n rhaid gosod Mr. X.Y.Z (safed y Ilythrennau am yr enw a roes ef) ar y rhestr fer, a chofiwch chi, third rater yw Mr. X.Y.Z.' Cymerais ei gyngor, ond i mi yn ddiweddarach, ar daer gymhelliad yr Athro Stanley Roberts, gymryd anrhydedd hanes yn ychwanegol. Cofiaf yn dda un o'r prynhawnau olaf a dreuliais yn ei gwmni yn y Cwm ym mis