Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gefndir i'r helynt. 'Roedd mwy o falais nag o graffter doethineb yn y cwestiwn. Cyfeiria Mr. Ellis hefyd at fethiant J. H. Davies yn etholiad y Cyngor Sir yn 1922, pan oedd ef yn anterth ei nerth. Y mae esboniad ar hyn hefyd. Ychydig cyn hynny buwyd yn ceisio ethol olynydd i'r Parch. Daniel Ashton Jones fel gweinidog yn Llangeitho. Dewis-ddyn mwyafrif yr aelodau oedd y Dr. Robert Rhystyd Davies, Wilkesbarre, a oedd a chysylltiadau agos a hen deuluoedd yr ardal a'i wraig hefyd o'r lie. Oherwydd cysylltiadau lleol y ddau a'u perthynas agos a theuluoedd na pherthynai i'r cylch mewnol yn niddordeb yr hen weinidog nid oedd y dewis o R. R. Davies yn dderbyniol gan yr elfen honno, a elwid yn lleol yn Llwyth Lefi'. Dewis-ddyn y Llwyth oedd y Parch. T. H. Creunant Davies. Pan ddaeth noson yr ethol syfrdanwyd y gynulleidfa gan y datganiad nad oedd R. R. Davies am i'w enw fyned ymlaen. Nid oedd ei gefnogwyr, a oedd, yn ddiamau, yn y mwyafrif yn gwybod dim am y newid yn ei feddwl. Daeth i'r amlwg yn y man iddo gael ei berswadio i dynnu'n 61 gan J. H. Davies ar y ddadl nad oedd yn beth gweddus i wr profiadol fel ef ei iselhau ei hun i fyned i bleidlais yn erbyn gwr ieuanc dibrofiad. Y fam gyffredin ydoedd i J. H. Davies ymyrryd yn y modd hwn ar gais arweinwyr y lleiafrif. Fel y dengys Mr. Ellis, yr oedd y cysylltiad rhyng- ddo a Llangeitho yn llacio y pryd hwnnw o dan bwys galwadau trymion ei swydd fel Prifathro. Petai ganddo wybodaeth lwyrach am y sefyllfa leol nid yw'n debyg y byddai wedi cymryd y cam a wnaeth. Y mae lie i ofni i'r Ileiafrif gymryd mantais arno i'w dibenion eu hunain. Y canlyniad fu gohirio dewis gweinidog yn Llangeitho tan 1925. Nid oes amheuaeth nad effeithiodd yr ymyriad yn drwm ar y bleidlais yn etholiad y Cyngor Sir yn 1922. Ar ben hynny, fel meddyg poblogaidd yn yr ardaloedd yr oedd ei gystadleuydd, y Dr. David Davies, yn ymgeisydd cryf. Hwyrach na fyddai wedi dod allan o gwbl onibai am y teimladau a ffynnai ar y pryd. Hawdd y gellid ymhelaethu ar lawer o bwyntiau a gwyd i'r meddwl o ddarllen y gyfrol werthfawr hon, ond rhaid ymatal gydag anogaeth gref i bob aelod o'r Gym- deithas fynnu cael gafael ar y cofiant a chael yr un symbyliad i ymdroi gyda'r hanes. E. D. Jones CANMLWYDD SILOH, ABERYSTWYTH, gan F. Wynn Jones. Aberystwyth, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf., dros Eglwys Siloh, 1963. Tt. 138. Pris 6s. Mae llawer dull a modd o ddathlu canmlwyddiant sefydliad neu gymdeithas, ac i'r hanesydd mae'n llawenydd gweld cyhoeddi llyfr yn cofnodi hanes y sefydliad hwnnw. Dyna a wnaeth Eglwys Siloh, Aberystwyth, yn 1963 fel rhan o raglen dathlu canrif o wasanaeth i grefydd, ac ymddiriedwyd y gwaith o ysgrifennu'r llyfr i Mr. F. Wynn Jones, O.B.E., B.A., aelod o'r Gymdeithas hon. Nid gwaith hawdd ydyw croniclo hanes eglwys, fel y tystiodd y Parch. T. E. Roberts wrth gyflwyno ei lyfryn yn 1913 i ddathlu hanner-canrif cyntaf yr eglwys hon Gwaith anodd yw dodi ynghyd hanes Eglwys am gyfnod o hanner can' mlynedd. Mae'n anodd oblegid mor lleied yw nifer y rhai sy'n cofio a bod c6f y rheini yn