Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CEREDIGION CYLCHGRAWN CYMDEITHAS HYNAFIAETHWYR SIR ABERTEIFI JOURNAL OF THE CARDIGANSHIRE ANTIQUARIAN SOCIETY CYFROL (Volume). V 1964 RHIFYN (NUMBER) 1 METHODISTIAETH GYNNAR GWAELOD SIR ABERTEIFI* YR enw a gysylltir a dechreuad a thwf y mudiad Methodistaidd yng ngwaelod sir Aberteifi yw Daniel Rowland o Langeitho. Gwyddys iddo deithio cryn lawer i weinidogaethu, ond ei duedd ef oedd tynnu'r dychweledigion i Langeitho. Cenhadaeth Howel Harris, mi dybiaf, oedd yn gyfrifol am sefydlu'r seiadau cynnar yng ngwaelod y sir a byddai Rowland, trwy gyfrwng ei weinidogaeth ryfedd, yn eu porthi. Ymwelodd Howel Harris a Llangeitho yng nghanol mis Hydref 1737 dyna'i ymweliad cyntaf, ond aeth yno drachefn yn nechrau Rhagfyr. Hyd y gwyddom ni bu ar gyfyl y sir yn 1738, ond cawn ef yn Llangeitho yn niwedd Awst 1739. Nid oes angen inni fanylu ynglyn a'r ymweliadau hyn, gan eu bod y tu allan i ffiniau fy nhestun. Ar 24 Hydref 1739 cawn y diwygiwr yn y Morfa Mawr ym mhlwyf Llansanffraid, ac yn pregethu yno rhwng naw a deuddeg o'r gloch y bore i gynulleidfa o gannoedd lawer. Yna, aeth yn ei flaen i Fydroilyn,1 plwyf Llannarth, a'i chael hi'n galed i bregethu yno. Cyfarfu a rhyw glerigwr dysgedig,-y Parch. John Pugh, Motygido,2 efallai. I know not how he did hear,' ebe Harris yn ei ddyddiadur, when I proved the necessity of Teachers to be taught themselves of God.' Drannoeth yr *Sylwedd anerchiad a draddodwyd i'r Gymdeithas yn Aberaeron, 31 Hydref 1964. lc Madsey sydd gan Tom Beynon (Cylch. Cym. Hanes y M.C., xxix, 99), eithr Madreylin sydd yn y dyddiadur, ond bod tair llythyren olaf y gair, ar ymyl y ddalen, wedi rhwbio dipyn. Dilyn ei glust a wnai Harris, debyg iawn, wrth groniclo'r enw. Tybed ai i ddosbarth y rhai sy'n cychwyn a Ma — y perthyn yr enw od hwn ? 2John Pugh (1689-1763), ysgolhaig, ysgolfeistr, ac offeiriad. Y mae'n rhyfedd nad oes air amdano yn Y Bywgrqffiadur Cymreig