Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bu ceffylau yn wasanaethgar iawn i ddyn erioed yr un modd ag y bu'r camelod a'r asynod a'r ychen hefyd o dan amgylchiadau arbennig. Yn 61 tystiolaeth gwyddonwyr datblygodd y ceffyl, fel ei berthynasau, yr asyn a'r zebra, o anifail bychan y cynfyd, nemor mwy na chi bach, a chanddo sawl bys i bob troed. Yng nghwrs yr oesoedd, drwy roi gormod o'i bwysau ar y bys canol, tyfodd hwnnw yn un cam caled gan adael i'r lleill ddirywio yn olion elfennol ar bob coes. Defhyddiodd y dyn bore y creadur bychan hwnnw yn fwyd a lluniaeth gan ei hela yn ddidrugaredd. Ond yn nhreigliadau'r oesoedd datblygodd y ceffyl, a dysgodd dyn y ffordd i'w ddofi a'i ddefnyddio i gario ac i lusgo. Ymhob gwareiddiad wedyn bu'r ceffyl yn werthfawr anghyffredin a daeth yn un o gyfeillion pennaf dynolryw. Mae iddo nodweddion a chymwysterau sy'n ei addasu a'i neilltuoli i wasanaethu dyn. Mae yn anifail hawdd ei ddofi a'i addysgu ac yn un iach, cryf, a chyflym, a gellir ei gadw ar gynnyrch y tir. Mae bwlch rhwng ei ddannedd i dderbyn y bit a phant ar ei gefn i ddyn eistedd yn esmwyth amo wrth ei farchogaeth. Ymetyb i swn y llais a chyfarwyddyd yr awenau, a daw'n llonydd i wisgo harnais amdano. I arbed traul ar ei garnau hawdd yw ei wisgo a phar o bedolau haeam. Heblaw nodwedd- ion amlwg ei gorff y mae hefyd yn anifail gwrol, ffyddlon, a hoffus. Drwy'r canrifoedd, felly, bu'r ceffyl yn wasanaethgar mewn tri chyfeiriad, sef mewn gwaith, rhyfel, a phleser. Am hynny enillodd Ie amlwg mewn celfyddyd a llenyddiaeth ac fe'i haddurnwyd mewn harnais godidog. Dylanwadodd dyn hefyd ar fathau o geffylau drwy fridio y mawr, yr ysgafn, a'r bychan,-y tri math gogyfer a'r amgylch- edd o for i fynydd, ac i bob un ei wisg addumol ef ei hun. Yn y gelfyddyd fore, y patrwm pennaf oedd llun ceffyl ar barwydydd yr hen ogofeydd. Yn ddiweddarach fe'i peintiwyd ac fe'i harluniwyd mewn perffeithrwydd dihafal gan y celfyddydwr gwar ar hyd yr oesoedd, nes i'r camera cyflym a chywir ddangos pob ystum a naid o'i eiddo mewn du a gwyn a lliw. Derbyniodd y ceffyl hefyd sylw'r llenor er yn fore iawn. Cyfeirir ato yn y Beibl yn aml a phwy all anghofio Jehu a oedd yn gyrru yn ynfyd' ? Ceir ef mewn llenyddiaeth Saesneg drwy'r byd o Brydain i'r Amerig ac Awstralia ac y mae llenyddiaeth gwledydd Ewrob yn llawn o hanesion amdano. Ond gwaetha'r modd ni chyhoeddwyd yr un llyfr am y ceffyl yn yr iaith Gymraeg er fod yna amryw ar feddygiaeth ceffylau wedi eu cyhoeddi yn Gymraeg yn y ganrif ddiwethaf Er hynny ceir cyfeiriadau ato mewn llenyddiaeth Gymraeg hen a diwedd- *Anerchiad a draddodwyd i'r Gymdeithas yn Aberaeron, 30 Hydref 1965.