Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bu'n arfer drwy'r oesau yn ardaloedd mynyddig Ewrop ac Asia i'r bugeiliaid yrru eu hanifeiliaid i bori'r llethrau uchaf dros fisoedd yr haf. Diau mai'r rheswm am hyn oedd rhoi cyfle i'r hen borfeydd adnewyddu, a hefyd, lie na cheid tir caeedig, i gadw'r anifeiliaid o'r cnydau ieuainc. Wrth edrych ar fap o Ogledd Ceredigion a'r cyffiniau te welir bod yma batrwm addas i symudiadau o'r fath. Ymranna'r ardal yn ddwy ran, ac er mwyn hwylustod gellid ystyried y llinell gontor iooo' fel eu terfyn. I'r gorllewin y mae cyfres o gymoedd culion gyda'u tyddynnod a'u tir caeedig. Yna tua'r dwyrain hyd at wrychyn Pumlumon Fawr mae plateau uchel o fynydd-dir agored, lie tardda'r afon Rheidol a'i cheinciau. Er bod y plateau hwn yn uned ddaearyddol a chymdeithasol, fe'i rhennid gynt rhwng cymydau Perfedd, Genau'r Glyn, a Chyfeiliog, a chan nad oes enw gwell i'w ddisgrifio yn ei grynswth fe gyfeirir ato yma fel Blaenrheidol. Amrywia'r tir o 1000' i dros 2000' o ran uchder, a hwnnw'n wlyb a chorsiog yn y mannau isaf. Er hyn 'roedd yno yr elfennau angen- rheidiol i gynnal ac i ddatblygu cymdeithas fugeiliol (yn ystod yr haf o leiaf). Magwyd tameidiau o ddoldir yn nolennau'r nentydd sy'n rhedeg o bob cwr o'r mynydd. 'Roedd yno hefyd lethrau graddol o borfa molinia-nardus12 heb fod llawer o greigiau'n torri eu hwyneb. Yn ogystal ceid cysgod sylweddol mewn rhai o'r ceseiliau, fel y sylwedd- olodd bugail y Drosgol, un o luestau uchaf yr ardal, flynyddoedd yn 61. Edrychodd hwnnw allan i'r storm ryw noswaith a dweud, Mae'n siwr o lod yn arw ar bobol y topie 'na heno'. Erbyn heddiw nid oes goed o dyfiant naturiol ym Mlaenrheidol. Awgryma enwau fel Gelli Gogau, Craigy Fedw, a Tharan Fedw Ddu nad felly y bu hi erioed ychwaith. Mae'r mawnogydd (rhai ohonynt fel mawnog Pencormaen cyfuwch a 1500') yn llawn boncyffion a chang- hennau bedw, a dywed y rhai sy'n gyfarwydd a'r ardal na fyddai'r bugeiliaid yn medru torri'r ail haen fawn (yr haen ddu) mewn mannau, gan amled y brigau bedw. Ni welwyd unrhyw dystiolaeth hanesyddol i ddyddio'r coed hyn, ond mae arolwg o goedwigoedd Arwystli a wnaed yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn disgrifio ardal gyfagos Cwm Buga fel mountain ground'.4 Profiad tebyg a gafodd Leland pan ymwelodd ag ardal Ystrad Fflur yn yr un cyfnod. I standing on Creggenaugllin', meddai, saw in no place within sight no woodd but al hilly pastures. Hyd oni cheir dadansoddiad radio-carbon o'r *Anerchiad a draddodwyd i'r Gymdeithas yn Aberaeron, 29 Hydref 1966.