Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JOHN DAVID LEWIS A HANES GWASG GOMER Gan mai cymeriad a diddordebau John David Lewis a arweiniodd at sefydlu gwasg argraffu yn Llandysul, priodol iawn yw dechrau'r ysgrif hon gydag ychydig o'i hanes ef. Ganed John David Lewis mewn ty o'r enw Red Lion gyferbyn a Thy-main ym mhen uchaf Llandysul ar 22 Ionawr, 1859. Deuai ei dad, David Lewis o bentref Tregroes, a'i fam, Hannah Lewis o ardal Cilrhedyn. Collodd J. D. Lewis ei fam pan nad oedd ef ond mis oed. Yr oedd rhieni David Lewis wedi symud o Dregroes i Landysul tua'r flwyddyn 1834, a mynychent gapel Penybont. Yno y bedyddiwyd David Lewis ym mis Mehefin 1843, a'i frawd hyn, Emanuel Lewis, fis ynghynt yn yr un flwyddyn, y ddau gan y Parch. O. Jones, Cilfowyr. Yn y flwyddyn 1857 ordeiniwyd Emanuel Lewis yn weinidog ar Benybont a pharhaodd cyfnod ei weinidogaeth hyd ei farw yn y flwyddyn 1887. Pregethai David Lewis hefyd fel pregethwr cynorth- wyol gan bregethu ei bregeth gyntaf ym Mhenybont yn y flwyddyn 1859­blwyddyn geni ei unig fab John David Lewis. Bu cysylltiad clos a gweithgar aelodau o'r teulu hwn a Phenybont yn un hir a nodedig iawn, gan ymestyn, ar ochr J. D. Lewis dros gant a hanner o flynyddoedd ac ar ochr Mrs. J. D. Lewis yn 61 i ddechreuadaj'r achos Bedyddiedig yn Nhanygraig, Llandysul tua'r flwyddyn 1735. Dywedir i David Lewis agor siop yn ei dy ei hun, Red Lion, ar 25 Ebrill, 1866 "My father commenced shopkeeping on his own account at his own home, Red Lion, opposite Tt-main." Wrth yr enw Market Stores y galwai ei dad y siop mewn rhai blynydd- oedd. Ai yr un ty oedd Red Lion a Market Stores, ac iddo newid ei enw wrth ei droi yn siop groser ? Y mae tri thy yn Llandysul heddiw yn y fan Ue'r oedd Market Stores, ac wrth edrych ar safle'r tai a sylwi ar eu hadeiladwaith, a ydyw'n bosibl mai fel rhyw fath o Town Hall y cod- wyd yr adeilad gwreiddiol ? Nodyn yn nyddiadur J. D. Lewis am Ionawr 1882 sy'n awgrymu hynnv "Mr. Robertson, agent to Mr. Fitzwilliams, together with Mr. George, the late agent, called at our house today asking us at Mr. Fitzwilliams' suggestion to undertake certain repairs on the Town Hall upon his granting a lease for a term of years not being able to determine what course to take we have taken a week's time to consider the matter". Credaf mai tua'r adeg hon, pan oedd J. D. Lewis yn chwe blwydd oed, yr ail briododd ei dad. Buont fyw fel teulu bach yn hapus iawn hyd