Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LEWIS MORRIS AC ARFERION PRIODI YNG NGHEREDIGION Yn rhifynnau'r Gentleman's Magazine am 1791 a 1792, fe geir cyfres o erthyglau byrion yn dwyn y teitl Morrisian Miscellany-Article III Cardigan Weddings', lie ceir crynodeb Saesneg o destun gan Lewis Morris yn trafod arferion priodi yng Ngheredigion yn ystod y ddeunawfed ganrif Mae'n dra thebygol mai'r erthyglau hynny oedd ffynhonnell Samuel Rush Meyrick wrth iddo yntau gynnwys adran debyg yn ei gyfrol ar hanes y sir.2 Daeth y testun gwreiddiol i olau dydd ymysg papurau William Owen [-Pughe], y geiriadurwr a'r hynafiaethydd, a hynny yn llaw Lewis Morris ei hunan.3 Yn yr enghraifft o gan y gwahoddwr a ddyf- ynnir gan y Gentleman's Magazine a chan Meyrick, enwau'r pâr priodasol yw Einion Owain a Llio Ellis yn nhestun gwreiddiol Lewis Morris, fodd bynnag, gwelir mai Sion Siams a Chatrin W[illia]m oedd enwau'r ddau. Dywedir yn ogystal mai Llwyn Ierwerth a'r Havode oedd eu cartrefi, a bod y briodas wedi ei gweinyddu yn y flwyddyn 1762. O droi at gofrestri eglwys y plwyf Llanbadarn Fawr, fe fethwyd a chanfod unrhyw gofnod am briodas rhwng dau o'r enw Einion Owain a Llio Ellis o gwmpas y flwyddyn honno, ac y mae'n rhaid tybio felly, mai enwau ffug yw'r rhai hynny. Ymysg cofnodion y priodasau am y flwyddyn 1761, er hynny, fe geir manylion am alw gostegion 'John James' a Catherine Jones' ar y 31 Mai, a'r 7 a'r 14 o Fehefin y flwyddyn honno, a chofnod eu priodas ar Mehefin 20. Disgrifir y priodfab yn Farmer a'r briodasferch yn Spinster Rhaid tybio mai Catherine ferch William Jones o'r Hafodau ger Goginan oedd y ferch. Gwyddys mai William John oedd rhydd-ddeiliad Hafodau yn 1 760,4 a digon naturiol fyddai galw'r briodasferch yn 'Catrin William' ar 61 enw bedydd ei thad gan y gwahoddwr, ond yn Catherine Jones o fewn cloriau swyddogol y gofrestr plwyf. Ymhlith cofnodion bedydd cofrestri Llanbadarn Fawr am. y blyn- yddoedd dilynol fe geir cofnodion bedyddio plant i'r John James uchod: ar 19 Gorffennaf 1766, bedyddiwyd Thomas ei fab, ac ar 4 Chwefror 1768, fe fedyddiwyd Elizabeth ei ferch. Llwyniorwerth Isaf yw enw cartref y tad yn y ddau gofnod, fferm sydd ychydig i'r gorllewin o bentref Capel Bangor. Nid i'r un briodas y perthyn y penillion 'pwnco' yn y testun, He ceir y 'shigowts' (' seek outs') yn ymryson a theulu'r briodasferch, gan ofyn am ei rhyddhau ar gyfer ei phriodi. Mary Jones' yw enw'r briodasferch yn yr achos hwn, a 'Chil-y-gelF yw enw'r cartref. Mae'n debyg mai pwnco o blwyf Pencarreg, ychydig dros y ffin yn sir