Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gaerfyrddin sydd yma, gan fod ffermydd o'r enw Cil-gell-isaf/ganoi/ uchaf yn y plwyf hwnnw. Yn y testun sy'n dilyn ceir cyfeiriadau at nifer o arferion gwlad sydd bellach wedi hen ddiflannu o Geredigion. Sonnir am yr arfer o ddyddio sef penodi dydd y briodas, a threfnu'n faterol ac yn ariannol ar ei chyfer, ac o ddwyn stafell neu eiddo'r briodasferch i gartre'r priodfab, neu fel arall, ar y diwrnod cyn y briodas. Cyfeirir at y pwrs a gwregys', sef yr arferiad o dderbyn anrhegion oddi wrth gyfeillion y priodfab a'r briodasferch yn eu cartrefi gwahanol cyn dydd y briodas. Fe'n cyflwynir i'r Gwahoddwr cymeriad Uiwgar lleol a ai o gwmpas gan wahodd pawb i'r briodas ac i'r neithior heb anghofio atgoffa'r gwahoddedigion fod disgwyl iddynt beidio a dod yn waglaw i'r dathlu. Crybwyllir y llythyrau cylchynnol yn ogystal a anfonnid drwy law'r Gwahoddwr gan y teuluoedd mwy bonheddig. Ceir son am dalu pwython sef yr arfer o ddychwelyd anrheg gyfwerth a'r un a dderbyniwyd gan y rhoddwyr ar adeg eu priodas hwythau i'r rhai sydd ar fin priodi. Cyfeiriwyd eisoes at y pwnco sef math o ganu gwaseila wrth ddrws cartref y briodasferch. Fe ddoi cyfeillion y priodfab (' gwyr y shigowt') yn gynnar ar fore'r briodas i hawlio'r ferch oddi wrth ei theulu, a hynny dan ganu ar ffurf holi ac ateb o boptu drws ei chartref. Ymhen hir a hwyr fe gai'r cyrchwyr fynediad i'r ty lie byddai'r ferch yn ymguddio a chaent eu diwallu o fwyd a diod.6 Cysylltir yr arfer olaf a grybwyllir gan Lewis Morris, sef y briodas fach ag ardal y gweithfeydd mwyn yng ngogledd y sir. Ymddengys mai math mwy anffurfiol a llai parhaol o gyd-fyw oedd y briodas fach lie hepgorid y gwasanaeth crefyddol eglwysig o'r drefn briodasol, a hynny er mawr golled ariannol i offeiriad y plwyf. Gellid dileu'r briodas wedi mis o arbrawf os nad oedd y trefniant yn foddhaol, neu os symudai'r mwynwr i ardal arall i weithio, a chan fod yr arferiad mor gyffredin, ni fyddai sen yn y byd ar unrhyw ferch a gai ei hysgaru' felly, ac fe ystyrid y ddau yn gwbl rydd i briodi o'r newydd. Yn dilyn fe gyhoeddir testun Lewis Morris yn union fel y'i ceir yn llawysgrif Ll.G.C. 13,226 C, tt. 313-31, gydag amrywiadau o destun y Gentleman's Magazine. 7 t. 313 The manner of their solemnizing their Marriages among the Mechanics, Farmers & Common people in Cardiganshire, peculiar I think to this Country and its borders. When a young couple have agreed to Marry with the Consents of their parents or friends, They agree to meet, some responsible persons assisting on each side, to settle the fortune in writing, if there be any fortune in Money or lands. This they call dyddio i.e. appointing a day. Then the bans are ask'd as in other Countries, and the day of marriage is always or most commonly orderd on a Saturday, and Friday is allotted to bring home the Stafell [or Chamber] of the woman if she