Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dechreuwyd argraffu yn yr Almaen yng nghanol y bymthegfed ganrif, ac mewn cyfnod pan oedd cyfathrebu'n anodd lledaenodd techneg newydd Johann Gutenberg yn syndod o gyflym drwy wledydd Ewrop. Yn ystod ei oes gwelodd Gutenberg sefydlu gweisg argraffu yn Yr Eidal a'r Swistir ac ar 61 ei farwolaeth ym 1468 parhaodd y diwydiant i ddatblygu a gwreiddio mewn nifer o wledydd y Cyfandir. Erbyn 1476 yr oedd Caxton wedi dechrau argraffu yn Llundain. Bu raid aros tan 1546 cyn cyhoeddi'r llyfr Cymraeg cyntaf, ac argraffwyd hwnnw yn Llundain. Am resymau politicaidd yn ogystal a masnachol ni sefydlwyd gwasg ar dir Cymru hyd 1718, er fod tua dau gant o lyfrau Cymraeg wedi ymddangos yn y cyfamser. Cyn- hyrchwyd y mwyafrif ohonynt yn Llundain a Rhydychen, ac yn ddiweddarach ym Mryste ac Amwythig. Sefydlwyd y wasg Gymreig gyntaf yn Adpar (neu Dre'rhedyn), ar gyrion Castellnewydd Emlyn, yn Sir Aberteifi, gan Isaac Carter. Ym 1725 symudodd Carter ei wasg i Gaerfyrddin, a dyna ddiwedd ar argraffu yng Ngheredigion hyd 1803, pan sefydlodd Thomas Johnes ei argraffwasg breifat yn Hafod Uchdryd. Dechreuwyd argraffu yn Aberystwyth ym 1809, Aberteifi ym 1815, a Llanbedr Pont Steffan erbyn 1855. Yn chwarter olaf y ganrif sefydlwyd gweisg yn Aberaeron, Llandysul a Thregaron.' Ni wyddys yn union pryd y dechreuwyd argraffu yn Nhregaron, ond mae'n debygol mai 1878 oedd y flwyddyn, ac mai gwr o Ferthyr Tudful, David Griffiths, oedd y sylfaenydd. Pan hysbysebwyd am feistr cyntaf i Dy'r Undeb yn Nhregaron ym mis Tachwedd 1877, penodwyd James Roberts, relieving officer o Ddowlais i'r swydd, a phen- odwyd ei wraig yn Feistres ar y Ty.3 Dywed y diweddar Barch. Dan Jones i Griffiths ddod i Dregaron gyda Roberts.* Mae'n debygol, felly, fod Roberts, wedi dechrau ar ei swydd newydd yn gynnar ym 1878, a bod Griffiths hefyd wedi dechrau ei fusnes tua'r un adeg. Erbyn 1880 fe restrir Griffiths ymhlith masnachwyr Tregaron fel argraffydd a gwerthwr defnyddiau ysgrifennu,5 ac yn ystod yr un flwyddyn argraffodd a chyhoeddodd gan etholiadol6 a llyfryn 24tt. o waith David Davies, Dol-dref, Tregaron, yn amlinellu hanes tyfiant yr Ysgol Sul yn yr ardal.7 Yn y flwyddyn ddilynol argraffodd bryddest goffadwriaethol o waith Isaac Evans i'r diweddar John Lewis, Tyddyn- du, Tregaron, a ddyddiwyd 14 Ebrill 1881.8 Erbyn 1884 yr oedd Griffiths wedi dychwelyd i Ferthyr, ac wedi agor busnes yn 29 North Street, Dowlais, lie roedd hefyd yn gwerthu defnyddiau papur, gan gynnwys papur wal.' Mae'n bosibl fod marwolaeth ei gyfaill James Roberts ym Mawrth 1880 wedi dylanwadu arno i symud yn 61 i Forgannwg.10 Erbyn 1891 yr oedd wedi symud eto i swyddfa yn 9 ARGRAFFWYR TREGARON1