Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'MERCHED Y GERDDI'-MUDWYR TYMHOROL 0 GEREDIGION1 Trwy'r canrifoedd bu Llundain yn atyniad cryf i ieuenctid Ceredig- ion ac yn gyrchfan i genedlaethau o Gardis. Ymhlith y mwyaflliwgar a diddorol o'r mudwyr, a'r rhai y gwyddys leiaf amdanynt, oedd 'Merched y Gerddi', y menywod hynny a ai'n flynyddol o gefn gwlad Ceredigion i dreulio'u hafau'n gweithio yng ngerddi a pharciau'r brif- ddinas. Cyfeirir atynt gan amryw o haneswyr Llundain, ond fe honn- odd y rhain ar gam mai o ogledd Cymru y deuent. Daniel Lysons yn ei lyfr The Environs of London (1792) oedd y cyntaf i wneud hyn, a'r tebygrwydd yw i eraill seilio eu tystiolaeth ar ei ddaearyddiaeth wallus ef.' Ni chefnogir damcaniaeth Lysons mewn gweithiau yn ymwneud a gogledd Cymru, ac y mae'r wybodaeth sydd gennym o Gymru'n profi'n ddiamwys mae brodorion o Geredigion oeddynt.' Ceir amryw o gyfeiriadau atynt o fewn y sir, a sonnir amdanynt mewn cyfrolau hanes lleol,4 mewn dogfennau, ar lafar" ac hyd hyn oed yng ngweithiau beirdd lleol fel Daniel Evans ('Daniel Ddu o Geredigion') yn ei bennill adnabyddus- 0 na bawn i fel colomen Ar Sant Paul yng nghanol Llunden, I gael gweled merched Cymru, Ar eu gliniau'n chwynu'r gerddi. Hyd yn oed yng Ngheredigion ei hun cyfyngwyd tiriogaeth y mudwyr i ardaloedd neilltuol yng nghanolbarth y sir, sef cylch Tregaron a'r pentrefi cyfagos megis Llanddewibrefi, Llangeitho a rhannau uchaf Dyffryn Aeron. Ymunai eraill a'r merched fel y teithient trwy Gantref Buallt ar eu ffordd i Lundain, a cheir hanesion am wragedd o Aber- gwesyn, Beulah a Llanwrtyd yn cyrchu i'r brifddinas yn flynyddol. Yn ogystal, ceir cyfeiriadau achlysurol at drigolion DyfFrynnoedd Tywi a Chothi yng ngogledd sir Gar hefyd yn ymuno a'r llif o fudwyr i Lundain o dro i dro. Y mae arwyddocad arbennig i leoliad yr arfer o gwmpas Tregaron oherwydd dyma un o brif ganolfannau'r porthmyn yng Nghymru ar hyd y canrifoedd.8 Ymddengys mai'r union gysylltiad hwn rhwng y porthmyn a'r dref a fu'n gymhelliad i ddechrau'r arfer. Trwy gysyll- tiad y porthmyn a Thregaron daeth y dref yn nodedig fel canolfan lIe treiddiai newyddion a syniadau estron i orllewin Cymru. Dichon mai'r enwogrwydd hwn a ysbrydolodd y bardd i gyfansoddi'r pennill adna. byddus-