Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BYWIOGRWYDD CREFYDDOL A LLENYDDOL DYFFRYN TEIFI, 1689-1740* Yn ystod y cyfnod rhwng Deddf Goddefgarwch 1689 a thwf Method- istiaeth gynnar ystyrid Dyffryn Teifi yr ardal fwyaf cyfoethog ei diwyll- iant ac effro ei meddwl yng Nghymru. Magwyd yno nythaid o ddiwygwyr crefyddol, llenorion, beirdd a hynafiaethwyr a fu'n gyfrifol am ysgogi gweithgarwch nodedig iawn. Clymid y llengarwyr bywiog a deallus hyn ynghyd gan ddyheadau cyffelyb. Dau brif nod oedd gan- ddynt yr awydd i ledu newyddion da yr Efengyl, i achub eneidiau ac i greu cenedl dduwiol a llythrennog a'r awydd i ofalu bod yr hen draddodiadau barddol a llenyddol yn dal i ffynnu'n hoyw a chryf. Nid oes dim yn tystio'n groywach i fwrlwm llenyddol a chrefyddol y fro hon na'r ffaith i Isaac Carter o Genarth ddewis sefydlu'r wasg swyddogol gyntaf a gafwyd yng Nghymru yn Nhrefhedyn, neu Atpar, ym mhlwyf Llandyfrïog ym 17 18. Er bod cyfathrach bur glos rhwng llenorion Dyffryn Teifi yn ystod y cyfnod hwn, ni pherthynent i gylch cydnabyddedig ac nid oeddynt o reidrwydd yn gweld lygad-yn-llygad ar bob pwnc. Y ffordd hawsaf o adnabod eu cymeriad a mesur eu cyfraniad yw ymdrin â hwy fel unigolion.1 Awn felly am dro ar hyd dolydd eang a gwastad glannau Teifi, gan gychwyn yn y Cilgwyn ym mhlwyf Llangybi, cartref Simon Thomas. Go niwlog yw'r wybodaeth gennym amdano ef, ond ym- ddengys iddo gynorthwyo'r Ymneilltuwr dylanwadol, Philip Pugh, am gyfnod cyn symud ym 171 i ddilyn dwy alwedigaeth, sef fel gweinidog Presbyteraidd a gwerthwr sidan yn nhref Henffordd.2 Gwr dysgedig, unigolyn balch ac ergydiwr ceryddgar oedd Simon Thomas. Yr oedd difrifwch y piwritan wedi ymwreiddio'n ddwfn yn ei bersonoliaeth a glynai'n ddi-ildio wrth y sylfeini Calfinaidd. Ef oedd archelyn y Pab- yddion a'r Arminiaid, ac mewn cyfres o gyhoeddiadau Saesneg- llyfrau a gyhoeddwyd gan wasg breifat o'i eiddo yn Henffordds- ymosododd yn finiog ar y rhai a droesai eu cefn ar werthoedd union- gred y traddodiad Piwritanaidd. Ond fel awdur Hanes y Byd a'r Amser- oedd (1718) y cofiwn am Simon Thomas yn bennaf. Ailfedyddiwyd ei gyfrol ym 1724 i theitl mwy priodol, sef Llyfr Gwybodaethy Cymro, a daeth yn un o lyfrau Cymraeg mwyaf poblogaidd y ganrif. Er bod y gyfrol yn dryfrith o ragfarn wrth-Babyddol, yr hyn sy'n nodedig amdani yw ei hymgais i drosglwyddo i'r Cymro cyffredin rai agweddau o'r wybodaeth seryddol a gwyddonol a ddarganfuwyd gan bobl fel *Traddodwyd y ddarlith hon gerbron y Gymdeithas mewn cyfarfod yn Aberaeron., Tachwedd 17eg, 1979. Carwn ddiolch i Mr. D. J. Bowen, M.A., am ddarllen yr ysgrif ac am gynnig nifer o welliannau gwertbfawr.