Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FFINIAU IAITH AC ARFERION I Yn B. xiv, 272-03 (1952) mewn erthygl ar bpi dwy Dajodiaith, ceisiais ddangos bod yna wahaniaeth arwyddocaol rhwng geirfa amaethu ardal Llan-non-Llanrhystud, Ceredigion a geirfa Dyffryn Aeron. Yn canlyn o hynny awgrymais mai'r tir uchel rhwng Llan-non ac Aber-arth oedd ffin eithaf gogleddeg tua'r de. Ychydig gyfathrach a thramwy oedd rhwng y ddwy ardal hyn, a hynny yn amlwg oher- wydd natur lethrog y briffordd (yr A 487 bellach) rhyngddynt. Di- bynnai'r ardal ddeheuol ar y llwythi glo a choed a defnyddiau trymion eraill a ddoi ar y llongau i harbwr Aberaeron. Ond i Lan-non, llawer haws oedd cyrchu'r defnyddiau trymion hyn o stesion Llanrhystud Road yn Llanfarian ryw saith milltir i'r gogledd. Yn 1908, er engh- raifft, pan alwai Mr. E. Lloyd, Maes-gwyn, Llan-non am lwyth tryc o 12 tunnell o slag basig yn wrtaith, o stesion Llanrhystud Rd. y bu raid ei gyrchu. Yna, yn 1911, caed relwe o Lambed i Aberaeron. Yn y cyfamser roedd Ysgol Sir wedi ei hagor yno. Deuai llawer o'r disgyblion iddi o Lan-non; a chan mai cwta bum milltir o ffordd sy rhwng y ddau le, roeddent yn y blynyddoedd hynny yn gallu cerdded y daith fore Llun a phnawn dydd Gwener gan letya yn y dref yn ystod yr wythnos. Yna, yn y dau-ddegau cafwyd bysiau i redeg bob pen-dydd a gwnai hynny hi'n bosib mynd o'r cartre i'r ysgol a dychwelyd yn ddyddiol. Wedyn, yn y pum-degau, crynhowyd holl blant dros un ar ddeg oed yr ardal- oedd i'r Ysgol Uwchradd yn Aberaeron. Wedi i hynny ddigwydd, cymysgwyd y boblogaeth a'r. nodweddion tafodieithol yn helaeth, proses yr oedd rhyfel 1939-45 wedi ei phrysuro eisoes. 0 adeiladu stadoedd bychain o dai cyngor a llawer o rai preifat daeth ardal Llan- non yn ardal drigiannu i bobl ddwad a'r rheiny yn gweithio yn swydd- feydd ac ysgolion a cholegau Aberaeron ac Aberystwyth. Yn arwerthiant ymadawol Mr. J. Price a fferm Morfa Mawr yn hydref 1920, ar gyfer newid had prynodd fy nhad dri mwdwl neu sopyn o farlys yn un o'r caeau gwastad ar Ian y mor. Drannoeth, ar ddiwrnod braf o hydref aeth ef a minnau i gambo yr un i gyrchu'r 'fargen'. Cofiaf sylwi ar yr amryw gamboed a ddeuai i'r caeau ar yr un neges o gyfeiriad y gogledd-Llanrhystud a Llanddeiniol a phellach. Gamboed pyst a chlwydi oedd ganddyn nhw fel ninnau ond bod eu pedwar polyn cornel nhw'n rhyw bedair i bum troedfedd o uchder a'n rhai ni'n ddim ond tua dwy droedfedd. Roedd eu ceffylau hwy'n ymddangos yn dipyn trymach na rhai'n hardal ni o Ddyffryn Aeron. Cofiaf hefyd sylwi ar fath o ffedog ledr fawr hanner crwn wrth