Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MERCHED Y GERDDI YN LLUNDAIN AC YNG NGHYMRU Mewn erthygl ddiweddar yn y cylchgrawn hwn, ceir disgrifiad manwl gan fy nghydweithiwr John Williams-Davies o hanes merched y gerddi, sef y merched a ai fel gweithwyr tymhorol o sir Aberteifi i Lundain i weithio yn y gerddi masnachol o gwmpas y brifddinas.1 Yn y nodyn presennol, hoffwn gyflwyno ychydig o wybodaeth ychwanegol ar ferched y gerddi yn Liundain a gesglais er pan gyhoeddwyd yr erthygl gyntaf, ac yn ogystal hoffwn dynnu sylw at waith merched mewn gerddi masnachol yng nghefn gwlad Cymru yn yr un cyfnod. Dywed John Williams-Davies yn ei erthygl werthfawr nid oes sicrwydd pa bryd y dechreuodd yr arfer, ond gwyddom ei fod mewn grym erbyn ail hanner y ddeunawfed ganrif' ac, yn wir, ni roddir ganddo gyfeiriadau ar yr arfer cyn canol y ganrif honno. Yr oedd yn hynod o ddiddorol felly i ddarganfod yn Llyfrgell Carolina Rediviva yn Uppsala disgrifiad o ferched y gerddi mor gynnar ag 1748 gan sylwedydd proffesiynol o Sweden o'r enw Pehr Kalm. Disgybl oedd Kalm i'r botanegwr enwog Linnaeus (Carl von Linne, 1707-1778), a ysbrydolodd nifer o ddynion ifainc i deithio allan o Sweden a chwilio'r byd am blanhigion newydd yn ystod y ddeunawfed ganrif. Daeth Kalm i Loegr yn 1 748, yn 32 mlwydd oed, ar ei ffordd i Ganada, a threuliodd rai misoedd mewn nifer o fannau yn ne-ddwyrain Lloegr. Croniclodd yn ei ddyddiadur bopeth a welodd yn ystod ei deithiau, gan roddi'r pwyslais mwyaf ar bethau amaethyddol a bot- anegol. Y mae ei sylwadau yn drylwyr, yn fanwl ac yn graff, ac weith- iau ceir ar ei dudalennau frasluniau syml ond effeithiol o wrthrychau diddorol megis offer a pheriannau. Ar y pedwerydd ar hugain o Fehefin 1748, pan oedd yn swydd Middlesex, tua diwedd ei arhosiad yn Lloegr, ysgrifennodd Kalm yn ei deithlyfr y sylwadau canlynol ar ferched y gerddi (cyfieithir o'r Swedeg gwreiddiol) Fel y mae'r Gwyddelod yn ceisio eu bwyd a'u hincwm ar yr ochr hon yn yr haf, felly hefyd gyda'r rhai a ddaw o Gymru, enillant hwy- thau eu harian ar yr ochr hon o Loegr, yng Nghaint, oherwydd tua'r tymor Iladd gwair, daw y werin oddi yno mewn niferoedd mawr iawn i lawr i'r parthau gwledig o Gaint i weithio am gyflogau ond gyda'r gwahaniaeth hwn dynion yn unig sy'n dod o Iwerddon, ond gwrag- edd a merched, gan mwyaf, sy'n dod o Gymru, y cyfan mewn dillad da, glan a destlus iawn. Hwy sy'n cywain ac yn medi'r cynhaeaf haf yng Nghaint bron i gyd, sef y gwair a'r yd. Hefyd cymerant i lawr a thyn- nant ymaith yr hopys. Aildrefnant y gerddi hopys. Casglant y gwa- hanol fathau o ffrwythau heirdd a gynhyrcha Caint A Kalm yn ei flaen wedyn i ysgrifennu am y Gwyddelod unwaith