Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HANES PLWYF LLANDDEWI BREFI gan D. Ben Rees. Pwyllgor Etifeddiaeth a Diwylliant Llanddewi Brefi, 1984 ISBN o 86383 012 9. Tud. xv + 260. Lluniau. £ 12.95 Os caf arall-eirio Syr O. M. Edwards, a dweud "Mae i bob ardal ei hanes, ei hanes ei hun, a gall golli hwnnw", nid oes berygl i hyn ddigwydd i Llanddewi Brefi. Gwnaeth y Parchedig D. Ben Rees gymwynas a'i ardal enedigol drwy gasglu ynghyd hanes ei fro drwy drwytho ei hun yn y toreth o ysgrifau a llyfrau ar wahanol agweddau ar hanes yr ardal, gan ychwanegu manylion am bethau distadl nas cof- nodwyd o'r blaen, a rhoi inni ddarlun cytbwys o bentref Llanddewi Brefi a'r cylch. Os mai ein nawdd-sant a roddodd Llanddewi Brefi ar y map, cofier bob yn y pentref hefyd ei dim pel-droed, ei gwmni drama, ei gymeriadau a'i gymwynaswyr a'i fod fwy nag unwaith wedi cael ei ddyfarnu fel y pentref taclusaf. Ar ben y cyfan, mae yn y pentref ei Bwyllgor Etifeddiaeth a Diwylliant a hwnnw fu'n gyfiifol am gyhoeddi'r llyfr cynhwysfawr hwn sydd a lluniau di-ri' sy'n ychwanegu at ei werth. Gwnaeth yr argraffwyr-Gwasg Gomer-waith eithriadol o dda ar y gyfrol hon -mae'n hyfryd i'r llygad ac yn hynod o ddarllenadwy. Llongyfarchiadau i'r awdur, a'r Pwyllgor a ysgogodd y gwaith, am groniclo'r hanes cyn iddo fynd ar goll. D.M.J.