Skip navigation
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
YR EGLWYS 'WIWLWYS OLAU' A'l BEIRNIAID
Ni all y sawl sy'n astudio hanes yr eglwys sefydledig yng Nghymru yn y
ddeunawfed ganrif lai na synnu a rhyfeddu at lafur, dyfalbarhad ac aberth
y gwyr eglwysig hynny a geisiai ei diwygio. Er ei holl feiau ac er yr holl
feirniadu a fu arni, y mae'n bwysig cofio bod eglwys Loegr yn hawlio lie
cynnes iawn yng nghalonnau'r mwyafrif llethol o addolwyr yng
Nghymru. Clodforid 'Eglwys Loegr liwgu' a'r 'Eglwys wiwlwys olau' yn
ami gan y beirdd ac un o brif amcanion y cenllif o lyfrau defosiynol a
gyhoeddwyd wedi 1689 oedd diogelu enw da y gyfundrefn eglwysig.1
Mudiad oddi mewn i'r eglwys oedd Methodistiaeth ac nid oedd gan ei
arweinwyr unrhyw awydd i ffarwelio a chyfundrefn a oedd yn cynrychioli
'hen ffordd y Cymry'. Ci gwerin-bobl Ceredigion bleser anghyffredin yn
canu carolau'r hen Ficer Prichard neu'n llafarganu halsingod yn eu
heglwysi. Yr oedd yn wiw gan lawer ohonynt i gynnal dosbarthiadau
darllen yn eu cartrefi a chymaint oedd eu sel dros yr eglwys nes y teithient
sawl milltir dros fynyddoedd a gweundiroedd llwm i fynychu gweddiau
cyhoeddus neu wrando pregeth. Yn ami byddent yn ymgynnull am rai
oriau mewn eglwysi oer a llaith hyd nes y deuai'r offeiriad i weini i'w
rheidiau.
Eto i gyd, ni ellir gwadu'r ffaith mai golwg anfydus iawn oedd ar
esgobaeth Dewi. Tlodi enbyd, ynghyd a phroblemau gweinyddol
arswydus, a oedd wrth wraidd holl ddiffygion yr eglwys. Yn sgil
diddymu'r mynachlogydd yn y 1530au yr oedd cyfran helaeth o
fywioliaethau'r esgobaeth wedi ei amfeddu gan wyr lleyg cefnog. Erbyn
1762 dim ond  900 oedd gwerth yr esgobaeth ac yr oedd degymau dros
hanner ei bywoliaethau wedi eu rheibio gan dirfeddianwyr. Gan y gwyr
barus hyn yr oedd yr hawl i benodi offeiriaid, a rhoddent gardod pitw
iddynt am eu gwasanaeth. Er bod perchennog plwyf Llanddewibrefi yn
derbyn mwy na  400 o ddegwm y flwyddyn, dim ond cil-dwrn o wyth bunt
a gai'r curad ganddo am gyflawni holl fagad gofalon bugail. Yr oedd man-
offeiriaid mor druenus o dlawd oherwydd diffyg degymau fel y'u gorfodid
i gasglu dwy neu dair bywoliaeth at ei gilydd er mwyn cael deupen
ynghyd. Gan fod yr eglwysi hynny yn ami ymhell oddi wrth ei gilydd
rhuthrai'r offeiriaid tlawd o'r naill eglwys i'r Hall ar y Sul i ddarllen y
gweddau yn unig ond heb oedi i bregethu'r Gair. Yr oedd rhai curadon
mor dlawd a llygod eglwys: nid oedd ganddynt arian wrth gefn i'w gallu-
ogi i wisgo'n daclus heb son am brynu llyfrau. Pa ryfedd i gynifer ohonynt
anobeithio'n 11 wyr a boddi eu gofidiau yn y dafarn?
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.