Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYS 'WIWLWYS OLAU' A'l BEIRNIAID Ni all y sawl sy'n astudio hanes yr eglwys sefydledig yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif lai na synnu a rhyfeddu at lafur, dyfalbarhad ac aberth y gwyr eglwysig hynny a geisiai ei diwygio. Er ei holl feiau ac er yr holl feirniadu a fu arni, y mae'n bwysig cofio bod eglwys Loegr yn hawlio lie cynnes iawn yng nghalonnau'r mwyafrif llethol o addolwyr yng Nghymru. Clodforid 'Eglwys Loegr liwgu' a'r 'Eglwys wiwlwys olau' yn ami gan y beirdd ac un o brif amcanion y cenllif o lyfrau defosiynol a gyhoeddwyd wedi 1689 oedd diogelu enw da y gyfundrefn eglwysig.1 Mudiad oddi mewn i'r eglwys oedd Methodistiaeth ac nid oedd gan ei arweinwyr unrhyw awydd i ffarwelio a chyfundrefn a oedd yn cynrychioli 'hen ffordd y Cymry'. Câi gwerin-bobl Ceredigion bleser anghyffredin yn canu carolau'r hen Ficer Prichard neu'n llafarganu halsingod yn eu heglwysi. Yr oedd yn wiw gan lawer ohonynt i gynnal dosbarthiadau darllen yn eu cartrefi a chymaint oedd eu sel dros yr eglwys nes y teithient sawl milltir dros fynyddoedd a gweundiroedd llwm i fynychu gweddiau cyhoeddus neu wrando pregeth. Yn ami byddent yn ymgynnull am rai oriau mewn eglwysi oer a llaith hyd nes y deuai'r offeiriad i weini i'w rheidiau. Eto i gyd, ni ellir gwadu'r ffaith mai golwg anfydus iawn oedd ar esgobaeth Dewi. Tlodi enbyd, ynghyd a phroblemau gweinyddol arswydus, a oedd wrth wraidd holl ddiffygion yr eglwys. Yn sgil diddymu'r mynachlogydd yn y 1530au yr oedd cyfran helaeth o fywioliaethau'r esgobaeth wedi ei amfeddu gan wyr lleyg cefnog. Erbyn 1762 dim ond £ 900 oedd gwerth yr esgobaeth ac yr oedd degymau dros hanner ei bywoliaethau wedi eu rheibio gan dirfeddianwyr. Gan y gwyr barus hyn yr oedd yr hawl i benodi offeiriaid, a rhoddent gardod pitw iddynt am eu gwasanaeth. Er bod perchennog plwyf Llanddewibrefi yn derbyn mwy na £ 400 o ddegwm y flwyddyn, dim ond cil-dwrn o wyth bunt a gai'r curad ganddo am gyflawni holl fagad gofalon bugail. Yr oedd man- offeiriaid mor druenus o dlawd oherwydd diffyg degymau fel y'u gorfodid i gasglu dwy neu dair bywoliaeth at ei gilydd er mwyn cael deupen ynghyd. Gan fod yr eglwysi hynny yn ami ymhell oddi wrth ei gilydd rhuthrai'r offeiriaid tlawd o'r naill eglwys i'r Hall ar y Sul i ddarllen y gweddïau yn unig ond heb oedi i bregethu'r Gair. Yr oedd rhai curadon mor dlawd a llygod eglwys: nid oedd ganddynt arian wrth gefn i'w gallu- ogi i wisgo'n daclus heb son am brynu llyfrau. Pa ryfedd i gynifer ohonynt anobeithio'n 11 wyr a boddi eu gofidiau yn y dafarn?