Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hynny, llafuriodd yn ddiarbed i geisio diwallu'r angen cynyddol am gatecismau a llyfrau defosiynol. Ymboenai'n fawr ynghylch cyflwr moesol ac ysbrydol y rheini a elwid gan ei dad, Samuel Williams, yn 'bobl weringar a gwangred'.6 Yn 61 Syr Thomas Parry, 'nid oes yn hanes Cymru neb yn union fel efo, yn caru'r hen lenyddiaeth, yn trafferthu i wella'r werin, ac yn hoffi ysgolheictod gwyddonol fanwl'. 7 Gwr a ymglywai ag anghenion crefyddol a diwylliannol y genedl oedd Moses Williams ac yr oedd yn ymwybodol iawn nad oedd gan Gymru unrhyw sefydliadau i warchod ei hetifeddiaeth ac i feithrin ei chymeriad cenedlaethol. Credai ei fod yn byw mewn oes argyfyngus o safbwynt dysg Gymraeg a'r sefydliad eglwysig. Breuo a wnai'r hen draddodiadau gwerthfawr beunydd wrth i wyr bonheddig 'ucheldremio ar wychder y Saeson' ac ymwrthod a diwylliant eu cyn-deidiau. Ymddigymreigio hefyd a wnai'r sefydliad eglwysig yn sgil penodi to o esgobion diGymraeg. Loes calon oedd hyn oll i wr a fagwyd mewn bro mor llengar ac effro a Dyffryn Teifi, a theimlai'n gryf fod gan benaethiaid cymdeithas gyfrifol- deb arbennig i swcro'r 'hen famiaith odidog" ac i ddiwallu anghenion ysbrydol y Cymry Cymraeg. Ond ni feddai Moses Williams ar yr un awdurdod a dylanwad ag Edward Lhuyd a chafodd sawl profiad chwerw wrth geisio dringo'r ysgol i gynteddau uchaf yr eglwys. Ym 1709 urddwyd ef guradiaeth Chiddingstone yng Nghaint. Edward Tenison, Sais rhonc a oedd yn dal swydd Archddiacon Caerfyrddin, oedd ei ficer, a bu gwrthdaro ffyrnig rhwng y ddau. Drwy drugaredd, dychwelodd Moses Williams i Gymru ym 1715 pan benodwyd ef i fywoliaeth Llanwenog. Ymhen blwyddyn yr oedd wedi derbyn ficeriaeth Defynnog yn sir Frycheiniog. Ym 1717 fe'i gwahoddwyd i draddodi pregeth gerbron aelodau o Gym- deithas yr Hen Frythoniaid yn Llundain ar achlysur eu cinio Gwyl Ddewi. Cafwyd ganddo bregeth nodedig iawn, pregeth a oedd yn dadlennu ei holl freuddwydion ynghylch dyfodol Cymru. Er bod yr achlysur yn rhwysg- fawr a'i gynulleidfa'n bobl geidwadol wrth natur, nid arbedodd Moses Williams ddim ar ei dafod. Ceryddodd bwysigion yr oes am droi'n Sais- addolwyr ac am fynnu mai'r domen oedd priod le yr iaith Gymraeg. Nid iaith i'w chyfyngu i'r gegin gefn, i'r ffair a'r farchnad oedd y Gymraeg, meddai, ond iaith a oedd yn hyn na nemor un o ieithoedd Ewrop. Dyrchafu bri'r Gymraeg oedd pennaf dyletswydd y Cymry ac 'nid oes achos yn y byd i ni ddiysdyru'r Iaith Gymraeg, chwaethach i son am ei disdrywio hi. Ni a ddylem yn hytrach ei mawrhau a'i choleddu hi hyd byth y gallom, a hithau yn hyn na'r hynaf a siaredir heddyw yn y Rhan ymma o'r Ddaear' 10 Pwysodd yn daer ar wyr goludog y brifddinas i fuddsoddi