Skip navigation
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
mabwysiadodd y teitl Tywysog Cymru. Ond heb undod a chyd-ddyheu o fewn Cymru
nid oedd obaith yn unig esgor ar Gymru annibynnol. Yn y diwedd gyrrwyd Llywelyn yn
61 i'w gadarnle yn Eryri allan o gyrraedd y brenin, a chawn dystiolaeth mai ar ei ddeiliaid
yng Ngwynedd y syrthiodd baich trymaf y gost o gynnal ei ymgyrchoedd fel nad yw'n
rhyfedd iddo, oherwydd straen rhyfel ac anghenion ariannol na welwyd erioed mo'u
bath, gael ei gyhuddo o ormes llywodraethol. Un o'i wrthwynebwyr pennaf oedd Anian
ab Ynys o Nannau, esgob Llanelwy (un o'r Dominicaniaid) a gwynodd yn ei erbyn wrth
y Pab Gregori. Eto, ar 7 Mawrth 1274 daeth abadau saith o fynachlogydd y Sistersiaid yn
y dywysogaeth ynghyd yn Ystrad Fflur a chyfansoddi llythyr at y Pab yn ymbilio arno i
beidio a rhoi coel ar gwynion Anian, gan ddal nad gorthrymwr mynachlogydd mohono
ond amddiffynnwr cryf a rhagorol eu buddiannau hwy ac eiddo urddau eraill o'r Eglwys.
Stori drist i'r eithaf yw hanes ei briodas ag Elinor, merch Simon de Montford, a thras-
iedi fawr fu ymdrech Dafydd, ei frawd, ac yntau i fwrw oddi arnynt iau caled Edward.
Fe'i denwyd, o bosib, i Fuellt ac wrth adfyddino ar Ian afon Irfon, ger Llanfair-ym-
Muallt, syrthiodd i gleddyfmilwr o Sais ar 11 Rhagfyr 1282. Anfonwyd ei ben at y brenin
i'w arddangos yn Llundain a chladdwyd ei gorff yn Abaty Cwm Hir.
Ffrwyth llafur enfawr yw'r gyfrol hon ac y mae arnom ddyled i Mr. Beverley Smith am
glasur o astudiaeth o Lywelyn, yr olaf o dywysogion Cymru, yn ogystal a phortread
treiddgar o'i gyfnod.
David Jenkins
Penrhyn-coch
OWAIN GLYNDWR, John W. Roberts, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1985.
19 tt. £ 1.50.
Fe fydd unrhyw un a chanddo'r cyfrifoldeb deuol o ddysgu hanes Cymru yn ein hysgol-
ion neu'n colegau a cheisio ar yr un pryd faethloni profiad ei blant ei hun yn rhuddin ein
gorffennol yn gwybod yn iawn mai tasg enbyd o anodd yw ennyn a chadw diddordeb
ieuenctid yn hanes eu cenedl. Testun calondid a menter i'w chroesawu'n frwd, felly,
yw'r Project Defnyddiau ac Adnoddau o dan Gynllun Gwerslyfrau Cyd-bwyllgor
Addysg Cymru ac, yn arbennig, ei gynnyrch diweddaraf, sef gwerslyfr ar Owain
Glyndwr. Mae'r llyfryn yn gymen ac atyniadol ac yn cyflwyno bywyd a chyfraniad
Glyndwr i ddatblygiad y genedl mewn modd cymeradwy iawn. Yr arwr ei hun yw ffigwr
canolog yr ymdriniaeth ac er bod rhai agweddau pwysig, megis datblygiad y gwrthryfel a
natur y gefnogaeth a gafodd, yn dueddol i fynd ar goll, fe ddichon fod gosod y pwyslais ar
gerrig milltir pwysicaf bywyd Glyndwr yn ddigon teg mewn cyflwyniad o'r math hwn.
Er hynny, y mae ystyriaethau y gellid eu datblygu yn rhannau cyntaf y llyfr. Er
enghraifft, fe nodir traddodiadau a buchedd teulu Sycharth yn ystod ieuenctid Owain
ond nid yw'r awdur yn tanlinellu'r ffaith mai darlun o gydweithredu a chyfaddawdu a
geir ym mywyd cynnar y gwrthryfelwr ac mai annisgwyl, a dweud y lleiaf, oedd ei safiad
yn erbyn y goron. 0 safbwynt hanes Ceredigion hefyd, fe ddylid codi cwestiwn ynglyn
a'r gosodiad i'r gwrthryfel ledu 'yn wenfflam trwy'r wlad' ar fyrder, o gofio'r trobwynt a
gafwyd ar fynydd Hyddgant a barodd i farwydos y misoedd cynnar i gynneu'n fflam yn
ystod yr haf wedi'r safiad cychwynnol. Y mae un neu ddau o fannau eraill hefyd yn y llyfr
sy'n peri peth anesmwythyd. Fe ddylid esbonio, er enghraifft, mai cymal a ddeddfwyd
mewn adwaith i wrthryfel Glyndwr yw'r dyfyniad ar dudalen 6, He nodir i'r llywodraeth
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.