Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

osod gwaharddiadau ar y Cymry, ac efallai y dylid sicrhau bod ein plant yn gwerthfawr- ogi'r ffaith nad oedd papurau newydd ar gael ym 1403 drwy nodi hynny ar dudalen 11. 0 ran chwaeth yr adolygydd presennol y mae beth yn ormod o fapiau a'r rheini'n dueddol i ddarlunio'r un pwynt, a chamarweiniol yw son am 'diroedd Owain Glyndwr' fel petai gan yr arwr feddiant llwyr ar y tiriogaethau a ddangosir mewn coch. Fe ellid hefyd (er mai mympwy personol hefyd yw hwn) fod wedi gwneud dewis amgenach gogyfer a'r darlun clawr na'r ceffyl pantomeim anffodus sy'n ymddangos. Ond peth hawdd yw hel beiau, ac nid yw'r pwyntiau a godwyd yn tynnu'r un mymryn oddi ar werth sylfaenol y llyfryn. Fe fydd, yn sicr, yn arf gwerthfawr yn llaw'r athro ysgol ac yn gyfrwng i ysgogi diddordeb ein plant yng ngwaddol cyfoethog ein gorffennol. Lunos BEVERLEY SMITH Aberystwyth 'BECA! Robert M. Morris, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1986. 50 tt. I2 50 Dyletswydd hyfryd iawn yw cyfarch y gyfrol newydd hon ar Hanes Cymru, y diweddaraf mewn cyfres hynod werthfawr gan Broject Defnyddiau ac Adnoddau Y Swyddfa Gymreig. Y tro hwn, Helynt 'Beca sy'n dwyn sylw Robert M. Morris, o Adran Addysg Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a dylid ei longyfarch yn galonnog am roi'r fath wledd gerbron disgyblion ein hysgolion Cymraeg. Unwaith yn rhagor, mae'r gyfres fywiog hon wedi llwyddo i gyfleu darn o hanes cymhleth a thymhestlog ein cenedl mewn modd clir a chytbwys. Un o fanteision amlwg y llyfryn hwn yw bod yr awdur wedi dewis gosod yr Helynt mewn cyd-destun llawer ehangach na'r 1840au yn unig. Cawn gyfle i olrhain gwreiddiau'r cynnwrf yn 61 i'r ddeunawfed ganrif, a gwelwn hefyd bod rhai o'r goblygiadau yn parhau i anesmwytho'r awdurdodau hyd yn oed yn y 1880au. Gan ei fod yn rhychwantu'r degawdau, gall Mr. Morris gynnig disgrifiad cynhwysfawr o'r cefndir economaidd ac, ar yr un pryd, roi portreadau lliwgar o'r prif gymeriadau ar y naill ochr o'r Helynt a'r Hall. Yn ogystal, rhydd yr awdur gryn bwyslais ar hen arferion bro, megis y charivari Cymreig, y Ceffyl Pren, a gwneir amryw o gysylltiadau rhwng Helynt 'Beca a datblygiadau eraill fel Rhyfel y Sais Bach a mudiad y Siartwyr. Y mae'r darlun sy'n ymddangos yn un diddorol dros ben. Awgryma'r awdur nad protest yn erbyn tlodi yn unig oedd wrth wraidd yr Helynt, ond yn hytrach ymateb i anghyfiawnder ydoedd a lifodd allan o ddiwylliant gwledig arbennig iawn yng ngorllewin Cymru. Ni ellir esbonio terfysgoedd 'Beca, felly, heb gyfeirio yn anad dim at y diwylliant poblogaidd Cymraeg hwn. Fel gwerslyfr ysgol, mae'r llyfryn yn un y gall plentyn bori ynddo am gyfnod hir heb gael ei flino. Mae dogfennau o bob math i'w darganfod ymhlith y tudalennau-ffoto- graffau, peintiadau, mapiau, cerddi, llythyrau ac erthyglau papurau newydd cyfoes- sy'n rhoi cyfle i'r disgybl i ymlwybro yn ei amser ei hun drwy'r dystiolaeth hanesyddol. Fe ddylai hyn hybu diddordeb mewn hanes, a chymell plant i ddechrau gofyn cwestiynau newydd ynglyn a'r gorffennol. 'Rydym yn ddyledus iawn i'r awdur ac i Wasg y Brifysgol am gyhoeddi gwerslyfr hanes sydd mor ddiddorol a golygus. Yn wir, y mae'r llyfryn hwn yn gyflwyniad teilwng, ar gyfer cynulleidfa ifanc, o glasur yr Athro David Williams ar yr un pwnc. Ac ym marn yr adolygydd hwn, ni ellid disgwyl gwell canmoliaeth. ALED JONES Aberystwyth