Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Royal Writs in England from the Conquest to Glanvill (S.S.7 7 1958-9), 21). O safbwynt yr ail reol sy'n ymwneud a chwyn galanas, gellir awgrymu bod cysylltiad rhyngddi a'r arfer a nodir mewn deiseb tua'r flwyddyn 1322 (P.R.O. S.C.8/728/8) lie cydnabuwyd gan gymdeithas y de-orllewin nad oedd y dair prif achos trosedd i'w clywed yn llys y cwmwd. Am y trydydd, sef pwnc cam-ddyfarniad a dosbarth a neilltuo'r drafodaeth ohonynt i lys dygynnull, gellir nodi mai yn llys y sesiwn y clywid achosion dosbarth yn 61 y dogfennau sy'n weddill, ond o chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen yn unig y gellir dweud hyn a sicrwydd, oherwydd natur fratiog y dystiolaeth. 0 ran y llyfrau cyfraith, yn nhestunau'r bymthegfed ganrif y datgenir yr egwyddorion hyn am y tro cyntaf. Beth oedd ffynhonnell awdur/gopiydd S sydd gwestiwn anodd, ond efallai fod tractiau neu draethodau ar arfer y Ilysoedd yn cylchredeg ar wahan i'r llyfrau cyfraith ac mai oddi wrth un o'r rheini y tynnwyd yr wybodaeth. Mae'n berthnasol sylwi fod llawysgrif S, wrth drafod llys dygynnull (B.L.Add. 22356, 2387), yn son am 'vn pwngk ar bymthec, yr hwnn a geffir ynn lie arall yn Lladin val y mae haws y goylo a'e welet ynn ysgrifenedic'. 90 T. Lewis, The Laws of Hywel Dda, Llanstephan MS. 116 (Llundain, 1912), t. 42. Am Ddafydd Llwyd ap Gwilym, gw. P. W.L.M.A. t. 514. 91 Ibid., 553. Nid oes sicrwydd pwy oedd y gwr hwn. 'Possibly identifiable with Thomas Fychan ap Thomas ap Dafydd ap Gruffudd' a weithredai yn y Cantref Mawr c. 1436, meddai R. A. Griffiths, ac os cywir y sylw nid Dafydd ap Thomas Fychan o Lanwenog mohono. Ond gw. hefyd P. W.L.M.A. t. 307, sy'n cyfeirio at Thomas Fychan ap Thomas ap Hywel o Lanwenog, er na ellir ei gysylltu a gweithgarwch cyfreithiol. Am gywydd Lewis Glyn Cothi, gw. Poetical Works of Lewis Glyn Cothi, II; 290, 92 Am ei weithgarwch fel dosbarthwr ac fel dirprwy-ystiwart arglwyddiaeth Cydweli, gw. P. W.L.M.A., tt. 197-8. Am gyfeiriadau ato fel plediwr y brenin yng nghyfraith Hywel Dda (placitor domini regis in lege Howell Dda), gw. P.R.O. S.C.6/1223/8; S.C.6/1223/4. Am ei ach gw. Bartrum, Welsh Genealogies, I, i, 188; II, iii, 378. 93 Dyfynnir gan Geraint H. Jenkins, Hanes Cymruyny Cyfnod Modern Cynnar 1530-1760 (Caerdydd, 1983), t. 37.