Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COFFAD Miss MARGARET M. JENKINS, B.A. Bu Miss Margaret M. Jenkins yn amlwg ym myd addysg, ac yn weithgar mewn amryw ardal, ond fel 'Miss Jenkins, Pennant' yr adwaenid hi gan lawer. Roedd ganddi gariad at ei sir a'i hardal, a bu'n gefnogol i'r Gymdeithas ac yn aelod o'r Pwyllgor Gwaith er 1966. Bu farw ar 21 Mai 1986. Gwraig gadarn ei barn a llym ei beirniadaeth ydoedd, ond fe hirgofir ei charedigrwydd. ALUN R. EDWARDS, M.A., F.L.A. Byd llyfrau a chyhoeddi, ei gapel, ei deulu, a diwylliant Cymru oedd bywyd Alun Edwards. Er ei holl brysurdeb, cawsom ei gwmni ar y Pwyllgor Gwaith ac mewn cyfarfodydd o'r Gymdeithas. Roedd ei frwdfrydedd a'i ddygnwch yn esiampl i bawb ohonom. Cofiwn iddo weithredu am gyfnod fel Ysgrifennydd y Gweithgor a fu'n paratoi gogyfer a sefydlu Amgueddfa Ceredigion. Bu'n aelod o'r Pwyllgor Gwaith er 1952. Bu farw ar 28 Gorffennaf 1986. E. D. JONES, C.B.E., LL.D., B.A., F.S.A. Bu E.D., fel yr adwaenid ef gan ei gydnabod, yn gyfaill cywir i'r Gymdeithas. Cawsom ei gwmni ar y Pwyllgor Gwaith o 1958 hyd ei farwolaeth ar 7 Mawrth 1987. Roedd yn wr parod ei gyngor a'i gyfraniadau i'r trafodaethau yn berthnasol a diddorol. Byddai ganddo sylwadau difyr bob tro y byddai'n cynnig diolch i siaradwr. Yr oedd ei olwg ddwys yn ami yn cuddio ei natur ddireidus, a'i natur ddiymhongar yn cuddio'r toreth o wybodaeth a dysg a oedd ynddo. Ni allwn fforddio colli rhai fel hyn. Anrhydedd oedd cael eu hadnabod. DAFYDD MORRIS JONES