Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWRTHRYFEL Y GWEITHWYR GWLEDIG YNG NGHEREDIGION 1889-1950 Bu protest a therfysg yn nodwedd o fywyd cefn gwlad Ceredigion yn ystod y ganrif ddiwethaf fel yn achos sawl sir arall yng Nghymru. Bu'r cwynion yn Iluosog ac uchel fu'r gri yn erbyn anghyfiawnderau'r gymdeithas amaethyddol, gyda Rhyfel y Sais Bach, helynt Beca yn nyffryn Teifi, a chynyrfiadau Rhyfel y Degwm yn dystiolaeth fyw o'r brwydrau yn erbyn gormes. Ynghyd a gorthrymedigion gwleidyddol etholiadau 1865 ac 1868 daethant yn rhan annatod o'r traddodiad radicalaidd, Anghydffurfiol a gafodd gymaint o sylw dros y blynyddoedd. Ond unochrog iawn yw'r darlun. Pan sonnir am 'waedu gwerin' rhaid cofio taw brwydrau un haen o'r gymdeithas wledig a glodforir, sef dosbarth yffermwyr. Drachefn, pan ddaeth Pwnc y Tir i ddylanwadu ar wleidyddiaeth ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyplyswyd anniddigrwydd yr ardaloedd gwledig ag achos y tenantiaid. Achwynion a phryderon y ffermwyr a enillai gyhoeddusrwydd. Eto, roedd ochr arall i'r darlun. Tra safai'r ffermwyr fel dosbarth i herio awdurdod y tirfeddianwyr, ychydig o ystyr- iaeth a roddid i galedi'r dosbarth isaf, a phrin iawn fu'r son am hawliau a dyheadau'r gweithwyr gwledig. Yn amlach na pheidio, esgeuluswyd hwy gan yr arweinwyr Rhyddfrydol-fel yr anwybyddwyd hwy gan haneswyr wedi hynny. Prif nod yr erthygl hon, felly, yw taflu ychydig olau ar isfyd y llafurwyr cyffredin anfodlon a'u hymdrechion aflwyddiannus i sicrhau tegwch a chyfiawnder. Sir o ffermwyr bychain oedd Ceredigion yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda 70% yn ffermio llai na 50 erw. Ffermydd teuluol oedd y mwyafrifllethol, yn ddibynnol ar wasanaeth y gwragedd a'r plant, ac yn cyflogi rhyw un neu ddau o weision yn 61 yr angen (dynion ifainc a bechgyn fel rheol). Ar unedau mor fach prin bod safon byw y deiliaid fawr gwell nag un y gweithwyr, a thueddai hyn i gymylu'r rhaniadau dosbarth yn ami. Gwahanol iawn, mewn cymhariaeth, oedd y sefyllfa ar ffermydd mawr de-ddwyrain Lloegr lie cyflogid nifer helaeth o weision; yno roedd hollt amlwg rhwng y ddau ddosbarth. Dros y blynyddoedd gwelwyd gostyngiad cyson ym mhoblogaeth ardaloedd gwledig Ceredigion, yn arbennig ymysg y dosbarth llafur a ddewisai ymfudo fel ffordd ym wared. 1 Bu'n arfer ers tro i heidiau o weision fferm dramwyo i Fro Morgannwg a siroedd y Gororau i geisio gwell cyflog yn ystod y cynhaeaf. Fel y daeth y gweithiau glo yn atyniad pwysicach gadawodd cannoedd am barthau diwydiannol Morgannwg a Chaerfyrddin. Trodd eraill eu golygon tua Llundain neu'r mor. Yn ei dro, bu'r ecsodus blynyddol yn gyfrwng