Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Blwyddyn o ddathlu ac o gofio oedd 1988: dathlu cyhoeddi cyfieithiad y Beibl gan yr Esgob William Morgan ym 1588, cofio marwolaeth Ieuan Fardd ym 1788, a chofio marwolaeth Henry Richard ym 1888. Trefnwyd saith cyfarfod yn ystod y flwyddyn, gan ddechrau gyda'r Cyfarfod Blynyddol yn Neuaddjoseph Parry, Aberystwyth, ar 14 Mai. Derbyniwyd ymddiswyddiad Mr. G. G. Davies o'r Pwyllgor Gwaith gyda gofid, a gofynnwyd i'r Pwyllgor ddewis aelod newydd; yn ddiweddarach derbyniodd Mr. T. G. G. Herbert wahoddiad i ymuno a'r Pwyllgor. Ailetholwyd yr aelodau eraill ynghyd a'r swyddogion, ac etholwyd Mr. William Howells yn Ysgrifennydd Mygedol (Cyhoeddiadau a Chyhoeddusrwydd). Traddodwyd y ddarlith gan Mr. Ceri Davies o Adran y Clasuron, Coleg y Brifysgol, Caerdydd, ar y testun 'The 1588 Translation of the Bible and the World of Renaissance Learning'. Dathlwyd cyhoeddi cyfieithiad 1588 ymhellach yn ystod y Daith Flynyddol ar 28 Mai, a drefnwyd unwaith eto gan Mr. T. Duncan Cameron, drwy fynd eleni i Dy-mawr Wybrnant, man geni'r Esgob Morgan. Aeth dros hanner cant o bobl ar y daith gan ymweld hefyd ag Eglwys Penmachno lie cafwyd sgwrs ar henebion Cristnogol cynnar a phwysig yn yr Eglwys gan Dr. Nancy Edwards o Adran Hanes, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Ar 24 Medi daeth tua hanner cant o aelodau ynghyd i wrando ar Miss Caroline Kirkham yn siarad am hanes plasty Hafod. Caniatawyd y Gymdeithas i gynnal y cyfarfod yn Eglwys Hafod ac yn ddiweddarach dilynodd criw o ffyddloniaid penderfynol Dr. Stephen Briggs drwy law di-dor o gwmpas tiroedd y plas. I gofio marwolaeth Ieuan Fardd yn Ngwenhafdre, Swyddffynnon, ym 1788, trefnwyd cyfarfod yno ar 8 Hydref pan siaradodd Mr. Gerald Morgan ar gefndir yr athrylith truenus hwn. Ar 22 Hydref daeth yr Athro Ralph A. Griffiths o Adran Hanes Canoloesol Prifysgol Abertawe i'r Neuadd Gatholig, Aberteifi, i ddarlithio ar 'The Making of Mediaeval Cardigan'. Ar 19 Tachwedd daeth yr aelodau ynghyd yng ngwesty'r Talbot, Tregaron, i goffau marwolaeth Henry Richard ym 1888. Traddodwyd darlith ar 'Henry Richard's Tregaron' gan Gadeirydd y Cymdeithas, yr Athro Emeritus Ieuan Gwynedd Jones. Ail gyfarfod Cymraeg y flwyddyn a digwyddiad olaf y flwyddyn oedd darlith Mr. Edward G. Millward o Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ar 'Beirdd Ceredigion' yn Amgueddfa Ceredigion ar 10 Rhagfyr. Yn ystod y flwyddyn cafodd mawrion y genedl eu cofio'n anrhydeddus a threfnwyd cyfarfodydd mewn sawl man yng Ngheredigion. Y mae'r Gymdeithas yn arbennig o ddiolchgar i Mrs. Jasmine Jones, Gwenhafdre, i'r Tad Cunnane a'i gynulleidfa yn Aberteifi am eu croeso a'u lletygarwch, ac i Mrs. Williams o Westy'r Talbot, Tregaron. Mae ein diolch yn ddyledus eto i Amgueddfa Ceredigion ac i Adran Gerdd y Coleg am eu cefnogaeth barhaus, ac i Adran Efrydiau Allanol y Coleg sydd eleni wedi cytuno i rannu gyda'r Gymdeithas y baich o dalu treuliau rhai siaradwyr arbennig. Pan ddaeth tymor Mr. Dafydd Morris Jones fel Ysgrifennydd Mygedol y Gymdeithas i ben ym 1987 gadawodd fwlch ar ei 61 na ellid ei lenwi gan unigolyn. Yn ystod 1988