Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IEUAN FARDD (1731-1788): 'TRAETHAWD YR ESGYB EINGL' 'The Grievances of the Principality of Wales in the Church' dyna'r teitl ffurfiol a roddodd Ieuan Fardd (Evan Evans, Ieuan Brydydd Hir) ar ei draethawd yn trafod problemau'r Eglwys Sefydledig yng Nghymru yn ei oes ef ei hun ond byddai'n cyfeirio ato, o ran cyfleustra, fel 'Traethawd yr Esgyb Eingl'. Erys y traethawd mewn llawysgrif heddiw. Cyfansoddodd Ieuan y gwaith ar ddechrau 1765 a byddai'n llenwi rhyw hanner cant o dudalennau printiedig pes argreffid heddiw. Trafodwyd rhywfaint arno gan Mr. Aneirin Lewis, ond nododd fod angen ymchwil fanwl i benderfynu i ba raddau yr oedd beirniadaethau Ieuan ar yr Eglwys gyfoes yn gywir ac yn gytbwys. Rwyf innau wedi trafod peth o gynnwys y traethawd, a cheir trafodaeth bwysig gan yr Athro Geraint H. Jenkins; gwaetha'r modd, roedd fy llyfr yn nwylo'r cyhoeddwyr cyn i erthygl yr Athro Jenkins ymddangos. Mae'r Athro Jenkins yn cyplysu Ieuan gyda Moses Williams a Griffith Jones, Llanddowror, fel beirniaid yr Eglwys fel yr oedd hi yng Nghymru yn nghanol y ddeunawfed ganrf. Un o gyfraniadau gwerthfawr yr ysgrif hon yw'r esboniad a roddir am fethiant Ieuan i gyhoeddi ei draethawd- sef diffyg cefnogaeth Cymdeithas y Cymmrodorion, yn enwedig Richard Morris; y ffaith fod yr achos yn erbyn Dr. Thomas Bowles yn Nhrefdraeth, Mon, yn mynd rhagddo, a bod traethawd John Jones (Considerations on the illegality of presenting such as are unacquainted with the Welsh or British language to ecclesiastical benefices in those parts of Wales where that language is in general use and understood, 1 767) ar y gweill. Beth arall sydd i'w ddweud? Rwy'n tybio bod rhywfaint ar 61 heb ei ddweud ond y broblem yw cael hyd i'r dystiolaeth. Nid oes neb, hyd y gwn i, wedi ateb y cwestiwn 'Pwy oedd yr Esgyb Eingl'? Y mae eu henwau yn hysbys, a gwyddom gryn dipyn am eu gyrfaoedd yn Lloegr. Ond nid yw'n hawdd cael tystiolaeth am eu presenoldeb a'u gweithgarwch yng Nghymru. Yn wir, dyna ran o'r broblem; doedden nhw ddim yng Nghymru yn aml; roedd yn rhaid iddynt fod yn bresennol yn Nhy'r Arglwyddi; roedd ganddyn nhw fuddiannau eraill y tu allan i Gymru; roedd teithio yng Nghymru yn broblem; roedd eu plasau a'u heglwysi cadeiriol yn ddigon bier eu cyflwr. Ar ben hynny, y mae cymaint o gofnodion yr Eglwys yn ystod hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif ar goll, yn enwedig rhai yn perthyn i esgobaeth Tyddewi. Pan aeth y diweddar Dr. E. D. Jones ati i gyhoeddi erthygl ar agweddau ar hanes yr Eglwys yng Ngogledd Ceredigion yn y ddeunawfed ganrif, bu raid iddo ddibynnu'n drwm ar dystiolaeth o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. 5