Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

sylwadau hallt Ieuan? Ni fyddent i gyd yn ddall i wendidau'r Eglwys. Un o'r tanysgrifwyr oedd y Parchedig Thomas Beynon, rheithor Llanfihangel Cilfargen, ger Llandeilo. Cynnyrch ysgol ramadeg, nid prifysgol, oedd Beynon. Roedd yn ei dridegau pan gyhoeddwyd y Pregethau. Roedd yn amlblwyfwr, fel pawb arall a gâi'r cyfle, a chododd i fod yn Archddiacon Ceredigion erbyn 1814, gan grynhoi o leiaf saith o swyddi eglwysig eraill. Ond mae'n amlwg fod Beynon yn ymwybodol o wendidau'r Eglwys fel y'u disgrifiwyd gan Ieuan Fardd. Defnyddiai gyfran sylweddol o'i incwm i gefnogi'r ysgolion cylchynol, i adeiladu eglwysi newydd, a chyfrannu'n hael at Goleg Dewi Sant. Roedd hefyd, yn 61 Y Bywgraffiadur, yn ymhyfrydu mewn llenyddiaeth Gymraeg; mae'n un o'r personiaid Ilengar y gellir ei gysylltu'n uniongyrchol, trwy rhestr y danysgrifwyr, a Ieuan Fardd. Clerigwr arall a danysgrifiodd i'r gyfrol o bregethau oedd Evan Hughes, 'Hughes Fawr' yn 61 Y Bywgraffiadur. Dyna glerigwr arall, hyn na Thomas Beynon, a gefnogai addysg, yn enwedig yr ysgolion cylchynol, ac a gyhoeddodd lyfrau Cymraeg. (Dylid nodi nad oedd Anghydffurfwyr yn dirmygu cyfrol Ieuan; ceir enwau ychydig o weinidogion ar y rhestr, ynghyd a John Kenrick II o Wynn Hall, yn ogystal ag enw 'Robert Jones, Joiner, Llan Ystumdwy' sef Robert Jones, Rhos-lan, yn ddiau.) Dymunol fyddai gweld argraffu 'Traethawd' Ieuan. Rhaid cydnabod nad beirniaid cytbwys mohono; ni cheir y manylder a ddisgwylid gan feirniad, na'r mantoli a'r pwyso. Y mae'n cyffredinoli heb roi sail i'w gyhuddiadau ysgubol. Ond y mae' r ddogfen yn dyst i hanes a datblygiad personol un o'r unigolion pwysicaf yn llenyddiaeth ac ysgolheictod Cymraeg y ddeunawfed ganrif. Yn wir, tybiaf y byddai Ieuan yn cytuno nad beirniadaeth yn ein hystyr gyfoes oedd ei fwriad yn gymaint a rhybuddio'r genedl yn null proffwydi'r Hen Destament. Y mae ei angerdd yn amlwg, ei arddull yn ddeifiol. Ond, gwaetha'r modd, ni chaniatai ei sefyllfa isel yn y byd a'r Eglwys, nac ychwaith ei wendidau personol, iddo ennill parch fel proffwyd. Hyd yn oed petai Ieuan wedi bod mewn gwell sefyllfa fydol a phersonol, byddai'r oes wedi ei anwybyddu. 'Poor Evan Evans' ydoedd ef yng ngolwg Dr. Samuel Johnson, ac 'Ieuan druan' ydyw i bawb arall sydd wedi ystyried gyrfa droellog y dyn athrylithgar, gwlatgar, siomedig hwn. GERALD MORGAN Aberystwyth