Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BEIRDD CEREDIGION YN OES VICTORIA* Goddefer i mi ddechrau gyda'r wireb hon: y mae llenyddiaeth yn rhy bwysig i'w gadael i'r beirniaid llenyddol. Ni fynnwn am eiliad fychanu cyfraniad y beirniaid blaengar wrth iddynt ganolbwyntio ein sylw ar y testun a'i adeiledd, swn a synnwyr a'r berthynas rhyngddynt, cynarddulleg, seico-mecaneg llenyddiaeth a llu o bynciau pwysfawr eraill, sydd, mae'n siwr, yn taflu goleuni llachar ar waith y bardd neu'r lienor. Efallai mai gwendid pennaf y feirniadaeth avant-garde hon yw bod cyfran helaeth ohoni mor annarllenadwy. Ei gwendid mawr arall yw'r parodrwydd i ddifri'o'r feirniadaeth gyd-destunol gan dra-dyrchafu'r dadansoddiad testunol 'pur' fel petai'r gwaith llenyddol heb berthyn i fyd amser o gwbl. Tuedd y beirniaid hyn yw troi eu trwynau ar hanes llenyddiaeth. Y mae unrhyw ymgais i'r cyfeiriad hwn islaw sylw a chwmpas gwaith y beirniad 'creadigol': ei briod dasg ef yw dangos ac egluro' r technegau sydd ar waith mewn llenyddiaeth. Hynny yw, fe drinnir llenyddiaeth fel petai hi'n gasgliad o werthoedd llenyddol yn unig. A'r beirniad ati, felly, i ddatgelu mechanics y gwaith llenyddol ac yn y modd yma gellir dangos mawredd neu gyffredinedd y gwaith hwnnw. Mae'n anodd gennyf dderbyn yr agwedd ffasiynol hon yn ei chyfan- rwydd. Cam a llenyddiaeth yw anwybyddu'r seiliau dynol a chymdeithasol sydd iddi. Adlewyrchu meddwl dyn mewn cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol y mae llenyddiaeth. Rhaid deall amcan y lienor cyn cymhwyso dulliau dadansoddol at ei waith, er nad yw deall amcan yr ysgrifennwr o angenrheidrwydd yn swm a sylwedd gwerth ei waith. Heb y deall cyd-destunol hwn ni all y feirniadaeth lenyddol fod yn gyflawn ac ystyrlon heb ddweud dim mwy na hynny. Dylid cofio un ystyriaeth arall: gall y beirniad yntau fod yng ngafael syniadaeth neu ragfarnau ei oes ei hun. Er enghraifft, y mae teimladusrwydd beirdd a llenorion Oes Victoria yn hysbys. I'r beirniad modern, y mae'r sentimentaliaeth hon yn gyfystyr ag anniffuantrwydd; y mae'n 'ferfaidd', yn 'goegfeddal', yn sylfaenol anonest. Gall fod, wrth gwrs, ond ai dyna'r cwbl y gellir ei ddweud? Ys dywedodd un ysgrifennwr diweddar ar y pwnc hwn: The canard that ours is an unsentimental and even anti-sentimental culture has been advanced by influential twentieth-century opinion makers. In modern high culture, sentimentality is often thought of as vaguely embarrassing or is condemned for being in bad taste or for being insincere.' *Traddodwyd y ddarlith hon mewn Cyfarfod o'r Gymdeithas yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth, ar 10 Rhagfyr 1988.