Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Y CAPEL BACH'. HANES CAPEL EBENESER, PENPARCAU, c. 1812-1989, Geraint H. Jenkins, Aberystwyth, 1989. 42tt. Pris £ 3. Fel rhan o ddathliadau hanner can mlwyddiant adeilad presennol Ebeneser ym Mhenparcau, ger Aberystwyth, traddodwyd darlith gan un a fagwyd yn Y Capel Bach', a chyhoeddwyd honno yn llyfryn, gyda nifer o luniau o'r Capel, y pentref a chymeriadau'r fro. Sefydlwyd yr Achos ym 1812. Codwyd yr adeilad cyntaf ym 1848, ac ym 1939 adeiladwyd y Capel presennol. Yn ami, gall hanes eglwys neu gapel fod yn rhestr faith o ddyddiadau ac yn 'llith ariannol sych', ond nid felly hwn. Bu 'Y Capel Bach' yn ffodus mai hanesydd o fri sy'n cofnodi'r hanes, ac wrth wneud hynny, mae'n rhoi inni dafell flasus o hanes yr ardal dros gyfnod o ganrif a hanner. Ym 1812 rhyw 263 oedd poblogaeth Penparcau, a'r rhan fwyaf o'r dynion yn weision ffermydd a chrefftwyr. Hyd at ddechrau'r ganrif hon, pentref tlawd ydoedd-y tai yn wael a safon iechyd cyhoeddus ymhell o fod yn foddhaol. Tebyg, yn wir, oedd cyflwr y mwyafrif o bentrefi Cymru yn y cyfnod. Eto, o'r gymdeithas dlawd honno ym Mhenparcau y cododd nifer o wyr a gwragedd y cyfeirir atynt yn y llyfryn. Cymeriadau gwreiddiol oeddynt, ac os oeddent yn prin o gyfoeth materol roeddent yn rhagori yn eu gallu i werthfawrogi pethau gorau bywyd. Erbyn heddiw, mae ym Mhenparcau siopau, ysgol, neuadd, tafarn, a hyd yn oed dim pel-droed nid anenwog! Er i eglwys a chapeli eraill gael eu codi yno'n gymharol ddiweddar, 'Y Capel Bach' oedd y prif ganolfan ysbrydol, ddiwylliannol a chymdeithasol am gyfnod maith. Hwyrach mai hyn sy'n gyfrifol fod pentref Penparcau, gyda phoblogaeth heddiw o 5,000, ac sy'n sefyll rhyw led pedwar cae o dref Aberystwyth, wedi llwyddo i gadw'i annibyniaeth. Cyfrannodd 'Y Capel Bach' yn hael at fywyd cerddorol yr ardal ac un o'r aelodau hynny a weithiodd am oes i ddysgu sol-ffa i genedlaethau o blant a hybu'r bywyd cerddorol oedd y 'gwerinwrdiwylliediga'rcwmniwrdiddan', Thomas Herbert Phillips (1870-1956). Da oedd gweld teyrnged haeddiannol iddo yn y llyfryn hwn. Rydym fel cenedl wedi bod ar ein colled er pan beidiodd y Capel a'r Ysgol Sul feithrin plant yn y gelfyddyd o ddarllen cerddoriaeth. Bu aelodau 'Y Capel Bach' yn flaenllaw gyda sefydlu Cwmni Drama Penparcau, yn ogystal a'r gwaith, gyda chefnogaeth yr hynafiaethydd a'r Undodwr, George Eyre Evans, o sicrhau Darllenfa i'r pentref, a gwelwyd pobl mor amrywiol a Syr Edward Anwyl, Tom Beynon, Carellio Morgan, Gwenallt a Niclas y Glais yn darlithio naill ai yn y Capel neu yn y Ddarllenfa. Er i'r Tabernacl, Aberystwyth, estyn ei nawdd i'r 'Capel Bach' dros y blynyddoedd, ni ellir dweud fod y berthynas rhyngddynt yn gwbl hapus. Mae'n wir bod gweinidogion yTabernacl- Thomas Levi, R.J. Rees.J. D. Evans, J. E. Meredith aj. Elwyn Jenkins wedi rhoi gwasanaeth clodwiw i'r Achos ym Mhenparcau, ac i'r Tabernacl ysgwyddo'r baich ariannol; eto gellir casglu bod rhyw dyndra wedi bodoli rhwng y Tabernacl a'r 'Capel Bach' sy'n atgoffa un o sylw'r Hybarch Philip Jones am yr hufen a'r hufen-ia! Gwnaeth Golygydd y Cylchgrawn hwn waith canmoladwy drwy gofnodi hanes 'Y Capel Bach', a thrwy hynny roi inni'r boddhad o wybod mwy am Benparcau — y pentref a'r gymdeithas. DAFYDD MORRIS JONES Aber-arth