Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ADRODDIAD BLYNYDDOL AR GYFER 1989 Trefnwyd chwech cyfarfod yn ystod 1989, gan ddechrau gyda'r Cyfarfod Blynyddol yn Amgueddfa Ceredigion ar 22 Ebrill. Ymddiswyddodd Mr. R. R. Owen fel Trysorydd Mygedol ac etholwyd Mr. J. Iorwerth Jones i'r swydd. Diolchodd y Llywydd, Mr. J. E. R. Carson, i Mr. Owen am ei naw mlynedd o wasanaeth a chyflwynodd iddo gyfrol yn gydnabyddiaeth o'i gyfraniad i waith y Gymdeithas. Ymddiswyddodd Mr. Glyn Lewis Jones fel Gohebydd Lleol ar gyfer Aberystwyth a diolchwyd iddo yntau am ei wasanaeth. Ailetholwyd y swyddogion eraill ynghyd ag aelodau o'r Pwyllgor Gwaith. Etholwyd Mr. Geraint Phillips yn Ysgrifennydd Aelodaeth Mygedol a Mr. Gwilym Thomas yn Ohebydd Lleol ar gyfer ardal Llan-non. Traddodwyd y ddarlith gan Dr. Chris Arnold o Adran Efrydiau Allanol, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, ar y testun 'Archaeological Approaches to the Mediaeval Castle in Montgomeryshire'. Yn ei ddarlith dangosodd sut y defnyddiwyd technegau gwahanol iawn i archwilio Castell Mathrafal, Castell Powys a Chastell Simon. Ymwelwyd a'r safleoedd hyn dan arweiniad Dr. Arnold ar y Daith Flynyddol ar 27 Mai, taith a drefnwyd unwaith eto eleni gan Mr. T. Duncan Cameron. 27 Mai, taith a drefnwyd unwaith eto eleni gan Mr. T. Duncan Cameron. Ar 16 Medi trefnwyd taith i ymweld a safleoedd Rhufeinig yn y Canolbarth gan Dr. Jeffrey Davies o Adran Hanes, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Cynhaliwyd cyfarfod yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ar y cyd gyda Chymdeithas Archaeoleg y Coleg ar 31 Hydref pan draddodwyd darlith ar 'Ceredigion Hillforts: Recent Survey Evidence' gan Dr. Keith Ray, Cyn-Gyfarwyddwr Comisiwn Archaeolegol Ceredigion. Ar 18 Tachwedd bu Mr. Rhidian Griffiths o Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn darlithio ar "Caniadaeth wag ysmala, ddigrifol"-Ieuan Gwyllt a Chanu Cymru' Hon oedd unig ddarlith Gymraeg y flwyddyn. Yng nghyfarfod olaf y flwyddyn ar 16 Rhagfyr yn Amgueddfa Ceredigion cafwyd darlith gan Miss Rosemary Jones o'r Comisiwn Brenhinol ar Henebion yng Nghymru ar y testun 'Popular Culture, Policing and the Disappearance of the "Ceffyl Pren" in Cardigan, c. 1837-1850'. Cafwyd cynulleidfaoedd boddhaol ym mhob un o'r cyfarfodydd. Y mae'r Gymdeithas yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at ei gweithgareddau, yn arbennig i'r siaradwyr ac i Amgueddfa Ceredigion. Yn ystod y flwyddyn ymgymerodd Mr. Geraint Phillips a'r gwaith o drefnu holl faterion aelodaeth y Gymdeithas. Gwnaeth hyn faich yr Ysgrifennydd Cyffredinol yn llawer ysgafhach. Gyda Mr. William Howells yn Ysgrifennydd Cyhoeddiadau Mygedol y mae gan y Gymdeithas bellach 'dim gweinyddol' effeithiol. Yn ystod y flwyddyn cyfarfu'r Pwyllgor Gwaith ddwywaith; felly hefyd yr Is-Bwyllgor Archaeoleg. Y mae'r gwaith o olygu Cyfrol I o Hanes y Sir yn parhau a gwaith ar Gyfrol III eisoes wedi dechrau. Yn ystod y flwyddyn estynnwyd Mynegai Mr. William Howells i CEREDIGION i gynnwys Cyfrol X ac ar ddiwedd y flwyddyn penderfynodd y Pwyllgor Gwaith gyhoeddi'r gwaith gwerthfawr hwn yn ystod 1990. Y mae nifer aelodau'r Gymdeithas yn parhau i fod oddeutu 500 ond yr oedd incwm 1989 yn is na'r gwariant. Yn y blynyddoedd nesaf bydd yn rhaid cadw golwg manwl ar y sefyllfa ariannol ac yn arbennig ar faint y tanysgrifiad, sydd bellach yn gryn fargen am £ 5.00.